Cyhoeddwyd Gwasanaeth Rhywedd Cymru gyntaf gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AC yn 2017. Ers cyhoeddiad y Gweinidog Iechyd, crëwyd Gwasanaeth Rhywedd Cymru (WGS) ac mae'n gweithio o Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd, gyda Thimau Rhywedd Lleol ym mhob bwrdd iechyd. Mae'r Timau Rhywedd Lleol yn cynnwys meddyg, sy'n rhagnodi therapïau hormon a therapydd iaith a lleferydd, a'r ddau yn agosach at gartref.
Tîm gweinyddol a chlinigol amlddisgyblaeth yw Gwasanaeth Rhywedd Cymru, sy'n cynnwys Ymgynghorwyr, Clinigwyr Rhywedd, Seicolegwyr Clinigol, Therapyddion Iaith a Lleferydd a Rheolwyr. Cydweithiwn i ddarparu gofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar y claf, gyda ffocws ar yr agweddau hormonaidd, seicolegol a chymdeithasol ar drawsnewid.
Nid yw Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn darparu gofal na chyngor i unrhyw un o dan 18 oed. Fodd bynnag, cawn atgyfeiriadau ar gyfer cleifion o 17.5 oed. Rhaid i'r atgyfeiriwr a'r claf ddeall bod y cyfrifoldeb am y claf yn parhau gyda'r atgyfeiriwr nes bod y claf yn 18 oed ac yn cael ei dderbyn ar restr aros Gwasanaeth Rhywedd Cymru.
Rhaid i'r holl gleifion a atgyfeirir i Wasanaeth Rhywedd Cymru fod wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru.
Ymgynghoriadau Rhithwir – Adnoddau i Gleifion
Gwasanaethau Cymorth Atgyfeirio Cenedlaethol Dysfforia Rhywedd (GDNRSS) y GIG
Pan fyddwch chi a'ch tîm clinigol yn cytuno eich bod yn barod am lawdriniaeth, bydd GDNRSS yn prosesu eich atgyfeiriad i'ch darparwr llawfeddygol dethol. Mae ganddynt linell gymorth Un Pwynt Mynediad y gallwch ei ffonio am wybodaeth am eich atgyfeiriad, statws eich darparwr dethol a gwybodaeth ymarferol fel manylion teithio a pharcio, pwy all ddod gyda chi, beth i fynd ag ef gyda chi a ble i fynd pan gyrhaeddwch.
Mae GDNRSS ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.
Pwy yw GDNRSS a sut maen nhw'n rheoli eich atgyfeiriad?
Llinell Cymorth a Gwybodaeth GDNRSS: 01522 85 77 99
Taflenni Gwybodaeth Lawfeddygol
Labiaplasti Tegeirian Vaginoplasti Coluddion Vaginoplasti Llawfeddygaeth wal y frest Tîm Rhywedd Cymru
Timau Rhyw Lleo |
Mae Umbrella Cymru yn darparu cymorth cymheiriaid i unrhyw un sydd ar y rhestr aros am apwyntiad. Cyfle yw hwn i gael cysylltiad rheolaidd gan rywun sydd â phrofiad go iawn o anghydweddiad rhywedd a phrosesau trawsnewid. Bydd yn cynnig rhywun i chi siarad ag ef neu hi am eich teimladau wrth aros am eich apwyntiad, yn ogystal â phwynt cyswllt i ofyn am unrhyw gymorth ychwanegol y gall fod ei eisiau neu ei angen arnoch.
Os hoffech ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, bydd gofyn i chi roi caniatâd drwy lenwi ffurflen gydsynio, ac yna cysylltir â chi drwy ba gyfrwng bynnag sydd well gennych. Byddant yn trafod y broses gyda chi ac yn rhoi gwybod am y gwasanaethau sydd ar gael. Os na rowch chi ganiatâd i Umbrella Cymru gysylltu â chi, byddwn yn parchu hynny ond cofiwch y cewch chi newid eich meddwl unrhyw bryd. Cewch wybod rhagor am y cymorth sydd ar gael a'r manylion cyswllt y bydd eu hangen arnoch.
Nick (ef/yntau) |
Cyfarwyddwr |
Kirsty (hi/hithau) |
Gweithiwr Cymdeithasol – XIST Rheolwr Gwasanaethau |
Ray (nhw/ef/yntau) |
Gweithiwr Cefnogi Cymheiriaid |
Anna (hi/hithau) |
Gweithiwr Cefnogi Cymheiriaid |
Gall cleifion GRhC gysylltu â'r tîm drwy e-bost neu dros y ffôn ar 029 2183 6612 gydag unrhyw ymholiadau gweinyddol ynghylch:
Gwerthfawrogwn y gall y broses drawsnewid beri pryder a straen ar adegau, a bod yr amseroedd aros yn gallu bod yn rhwystredig. Fodd bynnag, byddem yn gofyn ichi drin ein staff gweinyddol â gofal a pharch. Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn un o wasanaethau prysur y GIG ac mae ein tîm yn gwneud eu gorau glas o hyd i'ch helpu.
Lawrlwythiadau |
Os ydych yn anfodlon ar y driniaeth neu'r gofal rydych chi'n eu cael, byddem yn eich annog i godi eich pryderon cyn gynted â phosibl, a hynny os oes modd i staff uwch sydd ar ddyletswydd adeg digwyddiad, neu'r rheolwr gwasanaeth. Fel arall, cysylltwch ag aelod o'r Adran Bryderon ar 029 2074 4095 neu 029 2074 3301, a bydd yn hapus i drafod eich pryderon gyda chi a'u trosglwyddo i'r adran berthnasol. Gallwch hefyd anfon e-bost i'r tîm yn concerns@wales.nhs.uk neu lawrlwytho a llenwi ffurflen yma.
Ceir rhai dolenni isod i gymdeithasau a gwybodaeth gyfreithiol a allai fod yn ddefnyddiol i chi:
Tudalen Adnoddau Gweithwyr Proffesiynol Gwasanaeth Rhywedd Cymru