Neidio i'r prif gynnwy

Therapi Iaith a Lleferydd i Blant

Gair amdanom ni

Mae'r Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd i Blant yn gweithio gyda theuluoedd, staff addysg  a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i gefnogi sgiliau lleferydd, iaith, cyfathrebu a bwydo plant.

Gweithiwn gyda phlant o enedigaeth hyd at ddiwedd eu haddysg amser llawn os oes ganddynt anawsterau lleferydd, iaith, cyfathrebu neu fwydo sy'n effeithio ar eu bywydau. Ein nod yw rhoi cyngor a chymorth ymarferol i rymuso pobl yn rhwydwaith cefnogi'r plentyn i ddatblygu ei sgiliau cyfathrebu a bwydo gweithredol. Rydym yma i gefnogi teuluoedd pan fydd ein hangen arnynt a bydd ein gwaith gyda theuluoedd yn dibynnu ar eu hanghenion unigol.

Beth i'w wneud os ydych yn poeni am sgiliau lleferydd, iaith, cyfathrebu neu fwydo eich plentyn?

Mae'r Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd i Blant yma i helpu chi i gefnogi sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn. 

Cliciwch yma am ein gwybodaeth ac adnoddau ar wefan Cadw Fi'n Da Caerdydd a'r Fro

 

Sut mae cysylltu â ni


Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd i Blant
BIP Caerdydd a'r Fro
Llawr 1af, Woodland House
Maes-y-Coed Road
Caerdydd
CF14 4HH

029 2183 6585

 


Dychwelyd i'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Dilynwch ni