Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir 2024 – Simplified Version

27 Mawrth 2024

Mae’r erthygl hon yn fersiwn symlach o Dathlu Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir 2024.

Ond efallai y bydd angen cymorth arnoch i’w darllen o hyd. Gofynnwch i rywun rydych chi’n ei adnabod i’ch helpu chi.

----

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cymryd rhan yn Niwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir.

Mae interniaeth a gefnogir yn ffordd o astudio sy’n eich helpu i gael swydd.

Gydag interniaeth a gefnogir, rydych chi’n dysgu’n bennaf tra’n gwneud y swydd.

 

Mae llawer o bobl ifanc ag anghenion ychwanegol eisiau cael swydd.

Gall fod yn anodd iddynt gael swydd pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Mae interniaethau a gefnogir yn helpu i roi profiad gwaith i bobl.

Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws cael swydd yn y dyfodol.

Dyna pam mae interniaethau a gefnogir yn bwysig.

 

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro opsiynau ar gyfer interniaethau a gefnogir.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi helpu 32 o bobl ifanc gydag interniaeth a gefnogir.

Mae 13 o bobl ifanc yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dilyn eu hinterniaeth a gefnogir.

Mae interniaeth a gefnogir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnwys:

  • Gweithio mewn gwahanol feysydd yn y sefydliad
  • Rhywun i helpu os nad ydych yn deall rhywbeth
  • Dosbarth i ddysgu
  • Hyfforddiant ar gyfer cyfweliadau

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnal interniaethau a gefnogir gyda chymorth:

  • Cynghorau Lleol
  • Awdurdodau Addysg Lleol

 

Mae angen i bobl ifanc sy’n dymuno ymuno ag interniaeth a gefnogir siarad â’u hathro.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch o fod yn gyflogwr cynhwysol.

 

____________

 

Geiriau anodd:

Mae cynhwysol yn golygu nad oes neb yn cael ei adael allan oherwydd pwy ydyn nhw.

Dilynwch ni