Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir 2024

27 Mawrth 2024

 

Mae'r erthygl hon ar gael fel fersiwn symlach. Gallwch ei darllen yma.

Mae’n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gefnogi Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir, dathliad o’r effaith enfawr y gall interniaeth a gefnogir ei chael ar unigolion a sefydliadau fel ei gilydd.

Mae interniaethau a gefnogir wedi’u cynllunio i ddarparu llwybr amgen i’r gweithlu ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth. Mae’r digwyddiad, a gynhelir yn flynyddol ar 27 Mawrth, yn fodd o herio camsyniadau ac amlygu’r rhwystrau i gyflogaeth y mae pobl ag anableddau dysgu yn eu hwynebu.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu i fynd i’r gweithle, ar ôl creu partneriaeth â DFN Project SEARCH nôl yn 2021.

Mae DFN Project SEARCH yn ddewis amgen i addysg draddodiadol yn yr ysgol ac mae’n helpu pobl i drosglwyddo i’r byd gwaith. Mae llawer o bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn ei chael hi’n anodd trosglwyddo i’r gweithle ar ôl gadael yr ysgol. Mae’r fenter hon yn helpu pobl ifanc i fagu hyder a sicrhau cyflogaeth ystyrlon, â thâl.

Hyd yn hyn, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cyflogi 32 o bobl ifanc drwy DFN Project SEARCH ac mae 13 o bobl wedi ymuno â’r Bwrdd Iechyd ar sail amser llawn ar ôl cwblhau’r cwrs. Bob blwyddyn, mae’r Bwrdd Iechyd yn derbyn mwy o bobl ifanc ar y prosiect. Mae lleoliadau gyda’r Bwrdd Iechyd yn cynnwys gweithio mewn 3 maes gwahanol yn y sefydliad am 10-12 wythnos ar y tro i gael ystod o brofiadau mewn gwahanol feysydd.

Daw’r flwyddyn i ben gyda digwyddiad Graddio, gyda’r interniaid, y rhieni/gwarcheidwaid a’r rheolwyr yn bresennol. Cyflwynir tystysgrif i’r bobl ifanc gan y Prif Weithredwr, Suzanne Rankin, a chynigir y cyfle iddynt roi cyflwyniad i’r gynulleidfa am eu profiad.

Dywedodd Nicky Punter, Rheolwr Recriwtio’r Gweithlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, “Ers dechrau Project Search yn 2021, mae’r prosiect wedi rhoi’r cyfle i dros 30 o bobl ifanc brofi bywyd gwaith go iawn mewn ysbyty ac mae’r gwahaniaeth yn yr unigolion ers iddynt ddechrau yn aruthrol.

“Mae’n rhoi’r cyfle iddynt fagu hyder, annibyniaeth a sgiliau bywyd newydd, yn ogystal â’r cyfle i wneud cais am swydd gyflogedig yn y maes o’u dewis. Rwyf wir wedi mwynhau cyfarfod, dod i adnabod a gweithio gyda’r bobl ifanc hyn sy’n dangos pa mor ddiolchgar ydynt i gael y cyfle hwn drwy eu hetheg gwaith ardderchog a’u presenoldeb, sydd wedi bod yn rhagorol.

“Mae’n brosiect gwerth chweil i fod yn rhan ohono.”

Mae cysylltiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro â DFN Project SEARCH mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a’r awdurdod addysg lleol. Ar hyn o bryd, rydym yn cadarnhau’r lleoliadau gwaith ar gyfer y rhai a fydd yn dechrau ym mis Medi.

Dywedodd Luke, myfyriwr Project SEARCH sydd ar ei leoliad gyda’r gwasanaeth post, “Roeddwn i’n eithaf swil pan ddechreuais Project Search, ond nawr rwy’n teimlo’n hyderus ac yn gyfforddus wrth gwrdd â phobl newydd a dechrau tasgau newydd.

“Roedd cyfarfod â staff y wardiau yn brofiad da ac fe helpodd fi i fagu hyder ac i feithrin fy sgiliau llywio. Teimlaf fod pobl yn ymddiried ynof ac mae gen i fwy o gyfrifoldeb nag oedd gen i yn yr ysgol, ac rwy’n mwynhau hynny. Rwy’n mwynhau’r prosiect, a dysgu’r gwahanol dasgau, yn fawr.”

Bydd angen i bobl ifanc a hoffai gymryd rhan mewn lleoliad gwaith yn y Bwrdd Iechyd wneud cais drwy eu hysgol. Os yw’r person ifanc wedi’i gofrestru ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gall wneud cais am y prosiect drwy ei Ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Byddai angen iddynt hysbysu eu harweinydd addysg priodol i fynegi diddordeb gyda’r Awdurdod Addysg i wneud cais am le. Cyngor Caerdydd neu Gyngor Bro Morgannwg fyddai hwn.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o fod yn gyflogwr sy’n ystyriol o anabledd. Darllenwch fwy am nodau’r Bwrdd Iechyd i gyflawni gweithlu cynhwysol yn shapingourfuturewellbeing.com

I gael rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith a chyfleoedd eraill i bobl ifanc, ewch i’n tudalen profiad gwaith.

I gael rhagor o wybodaeth am DFN Project SEARCH, ewch i’w gwefan.

Dilynwch ni