Mae'r dudalen hon yn eich cyfeirio at wefannau ac adnoddau eraill i roi cyngor ac arweiniad i chi ar y ffordd orau i gefnogi llesiant staff. Our Wellbeing Matters Mae ein llesiant yn bwysig
Mae cyfrifoldeb am iechyd a llesiant yn y gwaith yn perthyn i gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd. Fel rheolwr, mae'n ddyletswydd arnoch i sicrhau nad yw gwaith yn gwneud eich tîm yn sâl. Bydd deall sut i adnabod arwyddion straen yn eich tîm, ac yna gwybod beth i'w wneud i leihau straen, yn eich helpu i gyflawni hyn.
Mae'r berthynas rhwng rheolwyr llinell a'u timau yn ffactor allweddol wrth benderfynu a fydd staff yn cael profiad cadarnhaol ynteu negyddol mewn gwaith - y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw gwrando.
Mae'r dolenni isod yn rhoi cyngor ac arweiniad i chi ar y ffordd orau i gefnogi llesiant staff:
Mae gan dudalennau gwe EWS lawer o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael yn y sefydliad a'r gymuned ehangach.
Pe gallech chi neu'ch tîm elwa o wybodaeth hunan gymorth neu atgyfeiriad i'r Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr cysylltwch â ni. Mae'r tîm Llesiant Gweithwyr yma i'ch cefnogi. |
Gall yr Olwyn Straen ceich helpu i wneud y newidiadau angenrheidiol yn eich bywyd trwy eich galluogi i ganolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei newid. Mae'n ffordd dda o baratoi cyn cwblhau'r Asesiad Risg Straen.
Mae offer defnyddiol arall o'r ISMA yn cynnwys: |
Defnyddiwch Ffurflen Asesu Risg Straen y BIP i sefydlu pa fesurau rheoli sydd ar waith ar hyn o bryd a pha fesurau ychwanegol y gellir eu cyflwyno i sicrhau bod y risgiau'n cael eu lleihau i lefel dderbyniol.
Dylai'r ffurflen hon gael ei defnyddio fel cymorth pan fydd staff naill ai wedi rhoi arwydd i'w rheolwr eu bod yn teimlo dan straen neu wedi bod yn absennol o'r gwaith o ganlyniad i straen sy'n gysylltiedig â gwaith. Gall yr Offeryn Asesu Risg Straen helpu gyda chwestiynau enghreifftiol i'w hystyried ac atebion posibl.
|
Ymdopi ar ôl Digwyddiad Trawmatig - mae'r daflen hon yn rhoi rhai awgrymiadau byr am hunanofal a hunangymorth ar ôl digwyddiad trawmatig
|
Darganfyddwch fwy am sut i helpu pobl gael gafael ar wybodaeth am y camau y gallant eu cymryd i ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain.
|
Hunanofal a Hunangymorth yn ystod Proses Ffurfiol - mae'r ddogfen hon yn darparu rhai awgrymiadau ynghylch hunanofal i weithwyr sy'n mynd trwy broses ffurfiol. Cyfieithiad Cymraeg yma.
|
Lawrlwythwch lyfryn cyngor ar Waith Iechyd a Llesiant gan ACAS.
|
Mae gofalu am iechyd a llesiant staff yn cyfrannu'n uniongyrchol at ddarparu gofal o ansawdd i gleifion. Ewch i'r adran Iechyd a Llesiant ar wefan Cyflogwyr y GIG am fwy o wybodaeth.
|
Mae NICE yn cynnig arweiniad i'r rheini sydd â rôl uniongyrchol neu anuniongyrchol mewn hyrwyddo a chyfrifoldeb dros Lesiant Meddyliol yn y Gwaith. Mae'n canolbwyntio ar ymyriadau i hyrwyddo llesiant meddyliol trwy amodau gwaith cynhyrchiol ac iach.
|
Mae'r canllawiau hyn gan yr HSE i bobl sydd â chyfrifoldeb rheoli neu sydd â rôl oruchwylio tîm neu aelodau iau o staff.
|
Anelir y canllawiau HSE hyn ar Gydweithio i Leihau Straen yn y Gwaith at weithwyr.
|
Mae'r fframwaith hwn ar Ymddygiadau Rheoli Llinell a Straen yn y Gwaith yn rhoi arweiniad i reolwyr ar sut i ddelio ag achosion o straen yn y gwaith.
|
Pam fod profiad staff yn bwysig
|
Pethau y mae angen i chi eu Gwybod am Lesiant Meddyliol
|
Mynd i'r afael â Bwlio ac Aflonyddu
|
CanllawiauMae llesiant rheolwyr yn bwysig & Mae ein Llesiant yn BwysigDatblygwyd y canllawiau hyn i gynorthwyo staff a rheolwyr gael gafael ar ganllawiau ar sut i wneud penderfyniadau gwell o ran eu hiechyd a’u llesiant, gan ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth a chanllawiau cydnabyddedig fel y ‘Meddwl’ a ‘5 Llwybr i Lesiant’.
|
Adnodd ar-lein ar gyfer arweinwyr, rheolwyr a thimau, sy'n eich cefnogi chi i gynyddu a hyrwyddo iechyd a llesiant seicolegol staff yn eich sefydliad.
|
Mae Cynlluniau Gwelithredu Gwell Iechyd (WAPs) yn ffordd hawdd, ymarferol o'ch helpu chi i gefnogi eich iechyd meddwl eich hun yn y gwaith, ac os ydych chi'n rheolwr, yn eich helpu chi i gefnogi iechyd meddwl aelodau'ch tîm.
Mae ysgrifennu cynllun gweithredu gwell iechyd yn gwbl ddewisol. Mae'r BIP yn cefnogi gweithwyr a allai weld cynllun gweithredu gwell iechyd yn ddefnyddiol.
|