Adolygu'r cynnydd a'r cymorth sydd ei angen ar yr holl staff yn y cyfarfod Adolygu Olyniaeth.
Rhoi amser gwarchodedig i'r cyflogai ymlaen llaw i'w annog i gwblhau'r hunanasesiad a dogfennaeth arall a myfyrio ynghylch ble mae ei botensial yn eistedd yng nghyd-destun y Fframwaith Sgwrs Gyrfa.
Ystyried a dod â thystiolaeth ehangach i gefnogi'r drafodaeth e.e.
Tudalen canlyniadau hunanasesiad
Adborth a myfyrdodau ynghylch yr hyn rydych wedi'i ganfod
Amcanion blaenorol a chanlyniadau perfformiad
Enghreifftiau o waith
Amlinelliad o'r Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau (KSF) neu fframweithiau perthnasol eraill
Sicrhau eich bod wedi cael amser ymlaen llaw fel bod y ddau ohonoch mewn lle da yn feddyliol i allu cael sgwrs dda.
Sicrhau bod digon o amser wedi'i roi i'r cyfarfod, a bod yr amser wedi'i warchod.
Bod yn ystyriol o'r amgylchedd lle cynhaliwch y sgwrs hon – defnyddio lle tawel a chyffyrddus.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.