Neidio i'r prif gynnwy

Y Fframwaith Sgwrs

Byddwch chi a'ch rheolwr yn trafod yr wybodaeth rydych wedi'i pharatoi ac yn defnyddio'r fframwaith sgwrs gyrfa i ddod â'r wybodaeth ynghyd. Nid oes unrhyw fannau cywir neu anghywir i fod; y peth pwysicaf yw ansawdd y sgwrs a'r ddirnadaeth a gewch. 

Bydd eich rheolwr yn dod i'r sgwrs gyda gwybodaeth y mae wedi'i chael o drafod disgwyliadau a pherfformiad yr holl staff ar eich lefel chi gyda'i gymheiriaid.

Cynlluniwyd y fframwaith hwn i alluogi sgwrs am eich rôl yn y GIG a phlotio eich safle a'ch cyfeiriad. Byddwch yn dechrau drwy ateb y cwestiwn cyntaf... 

  • Ble ydych chi nawr?
  • Ble mae angen ichi fod?
  • Beth fydd ei angen er mwyn ichi gyrraedd yno?

Yn ystod eich Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd, byddwch chi a'ch rheolwr yn trafod eich hunanasesiad, adborth, amcanion a chynnydd ac yn defnyddio'r Fframwaith Sgwrs Gyrfa i ddod â'r wybodaeth ynghyd. Bydd eich rheolwr yn dod i'r sgwrs gyda gwybodaeth y mae wedi'i chael o drafod disgwyliadau a pherfformiad yr holl staff ar eich lefel chi gyda'i gymheiriaid.  Nid oes unrhyw fannau cywir neu anghywir i fod; y peth pwysicaf yw ansawdd y sgwrs a'r ddirnadaeth a gewch. Byddwch chi a'ch rheolwr yn penderfynu gyda'ch gilydd ymhle byddwch yn cael eich rhoi ar y fframwaith drwy gytuno ar sgôr ar y raddfa lorweddol ar gyfer perfformiad a'r raddfa fertigol ar gyfer ymddygiad. 

 

LED - VBA - Conversation Framework - BLANK

Yn naturiol, rydym oll yn symud o gwmpas ar y fframwaith hwn yn ystod ein gyrfaoedd. Bydd llawer o staff yn ein sefydliad yn canfod eu hunain yn y canol yn bodloni canlyniadau perfformiad gan ddefnyddio'r gwerthoedd a'r ymddygiadau cywir. Pan ddechreuwch symud i ffwrdd o'r canol, gallai olygu bod angen her newydd arnoch neu'ch bod yn barod am gyfnod newydd yn eich gyrfa. Ble bynnag ydych chi nawr, bydd eich trafodaeth hefyd yn cynnwys yr ail ddau gwestiwn: 

  • Ble ydych chi nawr?
  • Ble mae angen ichi fod?
  • Beth fydd ei angen er mwyn ichi gyrraedd yno?

Yn dilyn eich Gwerthusiad, bydd eich rheolwr yn cofnodi'r canlyniad ar ESR yn seiliedig ar eich sgoriau ar gyfer ymddygiadau a pherfformiad a chanlyniad eich trafodaethau. Mae'r wybodaeth hon yn canolbwyntio ar eich datblygu chi, felly cynnal eich datblygiad i barhau'r gwaith da rydych yn ei wneud ar hyn o bryd, mynd i'r afael ag anghenion datblygiad penodol a nodwyd yn eich swydd gyfredol, neu fanteisio ar gryfderau a doniau posibl i'ch paratoi ar gyfer eich swydd nesaf.

Porffor:
Dylai staff sy'n syrthio i'r ardaloedd porffor gael cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth i gyrraedd eu nod / potensial nesaf. Efallai y cynigir prosiectau ychwanegol neu nodau ymestyn ichi er mwyn cael mwy o her, a bydd angen ichi ystyried eich bylchau datblygiad penodol er mwyn datblygu ymhellach. 

 

Glas:
Mae staff sy'n syrthio i'r ardaloedd glas yn gwneud gwaith da, ac mae ganddynt y potensial i wneud mwy. Efallai byddant yn amlwg yn bodloni amcanion ymddygiad a pherfformiad neu'n canolbwyntio'n ormodol ar y naill neu'r llall. Beth bynnag, mae'n bwysig cofio na fyddai'r GIG yn parhau i gyflenwi heboch chi, a'ch atgoffa sut mae troi eich egni'n ganlyniadau gwych. 

Gwyrdd:
Ar gyfer staff yn yr ardaloedd gwyrdd, mae angen cydnabod bod angen cymorth wedi'i dargedu arnoch i gyflawni eich potensial yn eich swydd gyfredol, ni waeth a ydych yn newydd i'r swydd a bod angen eich datblygu, neu fod angen cymorth arnoch i ddefnyddio eich sgiliau a chyrraedd eich potensial. 

 

Anghytuno

Os nad ydych chi a'ch rheolwr yn gallu cytuno pa mor dda rydych wedi bodloni eich amcanion nac ar eich lle ar y fframwaith, byddwch am drafod pam nad yw'ch disgwyliadau yr un peth. Beth ddywedodd eich adborth wrthych chi? A ydy eich rheolwr yn disgwyl rhywbeth nad oeddech yn gwybod amdano? Os nad ydych yn gallu cytuno o gwbl, gallwch ofyn i'ch rheolwr am adolygiad pellach a phenderfyniad terfynol. 

Dilynwch ni