Neidio i'r prif gynnwy

Cynllunio Datblygiad Personol

Pan fyddwch yn ystyried beth fydd ei angen er mwyn ichi gyrraedd eich amcanion newydd, gallwch gael cymorth, dysgu a datblygu mewn nifer o ffyrdd: 

  • 70% profiadau perthynol i swydd h.y. profiad ymarferol fel arsylwi, cysgodi, secondiadau byr 
  • 20% rhyngweithio ag eraill h.y. hyfforddi, mentora dysgu cymdeithasol, dysgu cydweithredol
  • 10% digwyddiadau addysgol ffurfiol

Cofiwch gofnodi datblygiadau sydd eu hangen yn uniongyrchol ar ESR ac yn y Llyfryn Cofnodi Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd hefyd

 


LED - VBA - Conversation Framework - BLANK

Porffor:
Dylai staff sy'n syrthio i'r ardaloedd porffor gael cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth i gyrraedd eu nod / potensial nesaf. Efallai y cynigir prosiectau ychwanegol neu nodau ymestyn ichi er mwyn cael mwy o her, a bydd angen ichi ystyried eich bylchau datblygiad penodol er mwyn datblygu ymhellach.

Glas:
Mae staff sy'n syrthio i'r ardaloedd glas yn gwneud gwaith da, ac mae ganddynt y potensial i wneud mwy. Efallai byddant yn amlwg yn bodloni amcanion ymddygiad a pherfformiad neu'n canolbwyntio'n ormodol ar y naill neu'r llall. Beth bynnag, mae'n bwysig cofio na fyddai'r GIG yn parhau i gyflenwi heboch chi, a'ch atgoffa sut mae troi eich egni'n ganlyniadau gwych.

Gwyrdd:
Ar gyfer staff yn yr ardaloedd gwyrdd, mae angen cydnabod bod angen cymorth wedi'i dargedu arnoch i gyflawni eich potensial yn eich swydd gyfredol, ni waeth a ydych yn newydd i'r swydd a bod angen eich datblygu, neu fod angen cymorth arnoch i ddefnyddio eich sgiliau a chyrraedd eich potensial.

Profiadau perthynol i swydd

Profiad ymarferol yw'r peth mwyaf buddiol i staff am ei fod yn eu galluogi i ddarganfod a mireinio eu sgiliau perthynol i swydd, gwneud penderfyniadau, mynd i'r afael â heriau a rhyngweithio â phobl ddylanwadol fel rheolwyr a mentoriaid mewn safleoedd gwaith. Maen nhw hefyd yn dysgu o'u camgymeriadau ac yn cael adborth yn syth am eu perfformiad. Efallai yr hoffech ystyried prosiectau newydd neu nodau ymestyn i ddysgu mwy yn y modd hwn. 

Dysgu oddi wrth eraill

Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau fel dysgu cymdeithasol, hyfforddi, mentora, dysgu cydweithredol a dulliau eraill o ryngweithio â chymheiriaid. Mae anogaeth ac adborth ymhlith prif fanteision y dull dysgu gwerthfawr hwn. 

Hyfforddiant Ffurfiol

Mae rhaglenni datblygu sgiliau ar gael yma. Os oes angen ichi gael at y dogfennau hyn o gartref, neu os nad oes cyfrifiadur ar gael ichi, cysylltwch â'r Adran Dysgu, Addysg a Datblygiad i gael gwybod rhagor e-bostiwch yr Adran neu ffoniwch: 02921 847834 [est. 47834]

Am enghreifftiau o Gynllunio Datblygiad Personol, cysylltwch â'r Adran Dysgu, Addysg a Datblygiad i weld ein Hastudiaethau Achos Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd.

Dilynwch ni