Neidio i'r prif gynnwy

Cyfansoddiad

1. Enw 

Enw'r grŵp fydd Rhwydwaith Clinigol Cymru ar gyfer Arenneg Bediatrig (WCNPN).

2. Diben 

Diben WCNPN yw gwella'r ddarpariaeth gofal arenneg bediatrig i blant Cymru a'u teuluoedd. Bydd yn cyflawni hyn trwy annog rhannu arfer da rhwng gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â gofal plant â chlefyd yr arennau. 

Mae cysylltiad rhwng ysbytai gogledd Cymru ac Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl, sy'n darparu gofal trydyddol i gleifion arennol pediatrig.  Yn ne Cymru, y ganolfan atgyfeirio drydyddol yw Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Mae arenegwyr pediatrig o'r canolfannau trydyddol perthnasol yn cynnal clinigau lleol ar y cyd mewn ysbytai cyffredinol dosbarth ledled Cymru.

3. Aelodaeth

Mae aelodaeth o'r WCNPN ar gael i bawb sy'n ymwneud â gofal plant â chlefyd yr arennau yng Nghymru.

Rhagwelir y bydd pob ysbyty yng Nghymru'n enwebu clinigydd i chwarae rôl flaenllaw mewn Arenneg Bediatrig a bod yn bwynt cyswllt yn ei uned. Bydd y clinigydd neu ddirprwy enwebedig yn mynychu cyfarfodydd WNCPN.

Mae gofal plant â chlefyd yr arennau yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol a chaiff nyrsys, dietegwyr, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion chwarae a seicolegwyr eu hannog i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd WCNPN, a byddai cynrychiolwyr o bob grŵp o weithwyr proffesiynol yn cael gwahoddiad i fynychu. 

Mae gwasanaethau clinigol eraill yn ymwneud â gofal plant â chlefyd yr arennau hefyd a bydd cyfraniadau o dimau wroleg bediatrig, radioleg a thimau eraill yn cael eu hannog.

Bydd cynrychiolwyr cleifion a rhieni'n cael eu cyfethol i fynychu cyfarfodydd.

4. Swyddogion

Cadeirydd – Wedi'i ethol am dymor 3 blynedd. Bydd aelodau o bob un o'r saith Bwrdd Iechyd yn pleidleisio dros y Cadeirydd, gydag un bleidlais fesul ysbyty. Bydd y Cadeirydd nesaf yn cael ei ethol o leiaf chwe mis cyn bod y Cadeirydd presennol yn gadael y rôl i sicrhau dilyniant.

Ysgrifennydd / Trysorydd - Wedi'i ethol am dymor 3 blynedd. Bydd aelodau o bob un o'r saith Bwrdd Iechyd yn pleidleisio dros yr Ysgrifennydd, gydag un bleidlais fesul ysbyty. Bydd yr Ysgrifennydd nesaf yn cael ei ethol o leiaf chwe mis cyn bod yr Ysgrifennydd presennol yn gadael y rôl i sicrhau dilyniant.

5. Cyfarfodydd

Bydd dau gyfarfod busnes bob blwyddyn, gydag un ohonynt yn cynnwys prynhawn addysg.

Bydd cworwm yn bresennol yn y cyfarfodydd os bydd y cadeirydd a'r ysgrifennydd, a 3 aelod arall yn bresennol.

6. Gweithgareddau

Bydd WCNPN yn cyflawni ei nod ddymuniedig, sef gwella gofal plant â chlefyd yr arennau yng Nghymru, trwy:

  • ddatblygu canllawiau a phatrymau atgyfeirio cyffredin ar gyfer cyflyrau arennol ac wrolegol pediatrig cyffredin.
  • trefnu archwiliadau Cymru gyfan yn erbyn safonau BAPN i adolygu gofal cleifion yn feirniadol.
  • hwyluso ac annog ysbytai cyffredinol dosbarth i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil ac archwiliadau cenedlaethol y DU.
  • helpu i ddatblygu profiad ymchwil ac arbenigedd mewn ysbytai cyffredinol dosbarth. 
  • gwella cysylltiadau data rhwng ysbytai cyffredinol dosbarth a'r ganolfan drydyddol yng Nghaerdydd, gan felly hwyluso cyfathrebu da a rhannu gwybodaeth yn dda.
  • datblygu Cronfeydd Data Cenedlaethol o glefydau arennol unigol gan felly hwyluso ymchwil ac archwilio. 
  • darparu diwrnodau astudio i wella gwybodaeth a lledaenu arfer da.
  • casglu adborth gan gleifion a'u teuluoedd er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn ymatebol i'w hanghenion. 
  • mabwysiadu neu anelu at safonau CYPSS 2009 a Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yr Arennau Cymru (Cynllun i Fynd i'r Afael â Chlefyd Arennol yng Nghymru: Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol 2007).  
7. Addasiadau i'r Cyfansoddiad 
  1. Rhaid i gynrychiolwyr o unrhyw ddau Fwrdd Iechyd gynnig diwygiadau i'r Cyfansoddiad i'r Ysgrifennydd o leiaf dri mis cyn y cyfarfod nesaf. 
  2. Rhaid i'r Ysgrifennydd hysbysu'r holl aelodau am y diwygiad arfaethedig o leiaf ddau fis cyn y cyfarfod nesaf.
  3. Gall unrhyw un gyflwyno gwrthgynigion ysgrifenedig i'r Ysgrifennydd o leiaf fis cyn y cyfarfod nesaf.
  4. Rhaid i'r Ysgrifennydd hysbysu'r holl aelodau am unrhyw wrthgynigion o leiaf dair wythnos cyn y cyfarfod nesaf.
Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r Cyfansoddiad