Neidio i'r prif gynnwy

COVID-19

Rydym yn parhau i ddysgu am COVID-19 a diwygio ein cyngor a'n hymarfer yn unol â hynny. Mae'n bwysig o hyd bod pawb yn talu sylw i gyngor cyrff y llywodraeth. Mae'r dudalen hon wedi'i sefydlu'n adnodd i bawb sy'n gofalu am blant â chlefyd yr arennau.

Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth ar gael ar y rhyngrwyd ac mae wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd. Mae'r ffocws ar geisio atal yr haint rhag lledaenu, yn enwedig i grwpiau agored i niwed, ac mae hyn yn cael ei gyflawni trwy nifer o fesurau syml: 
 
  • Golchwch eich dwylo'n aml, gyda dŵr a sebon, am o leiaf 20 eiliad. Os na fydd dŵr a sebon ar gael, defnyddiwch hylif diheintio'r dwylo y mae o leiaf 60% ohono'n alcohol. 
  • Peidiwch â chyffwrdd â'ch llygaid, eich trwyn na'ch ceg, yn enwedig os na fyddwch wedi golchi'ch dwylo.
  • Osgowch gysylltiad agos â phobl sy'n dangos symptomau salwch. 
  • Glanhewch wrthrychau ac arwynebeddau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml, a'u diheintio.
  • Gorchuddiwch beswch neu disian gyda hances bapur neu disian i'ch penelin. Taflwch yr hances bapur i'r bin a gwnewch yn siwr eich bod yn golchi'ch dwylo wedyn. 
  • Arhoswch gartref pan fyddwch chi'n sâl. Os byddwch chi'n amau bod gennych chi/gan eich plentyn haint COVID-19, cysylltwch â Chanolfan yr Arennau i Blant cyn mynd yno. Hefyd, gallai fod yn briodol cysylltu ag 111 y GIG, a fydd yn rhoi cyngor pellach, ond mae rhesymau penodol dros ffonio'r rhif hwn a gallwch weld y rhain yma. Ar hyn o bryd, y cyngor yw cysylltu â'r rhif hwn dim ond os "na allwch ymdopi" â'r symptomau gartref. 
Mae'r dystiolaeth yn parhau i ddangos bod yr effaith ar blant yn llai difrifol nag ar oedolion. Pryder amlwg yw plant sy'n cymryd cyffuriau i atal y system imiwnedd ac a oes mwy o risg iddyn nhw. Nid ydym wedi gweld problemau difrifol yn y cleifion hyn ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein cyngor ynghylch dychwelyd i'r ysgol. Bu adroddiadau o blaid ac yn erbyn defnyddio cyffuriau sy'n gweithredu ar y system renin/angiotensin, ond eto, nid oes tystiolaeth glir y naill ffordd na'r llall. Y neges bwysig yw peidio â gwneud unrhyw newidiadau i feddyginiaethau heb siarad â'r meddyg sy'n gofalu am y claf.
Mae gwarchod bellach yn dod i ben yng Nghymru. Mae ein corff cenedlaethol, BAPN, wedi cyhoeddi cyngor wedi'i ddiweddaru (Awst 14). Mae plant a phobl ifanc eithriadol o agored i niwed yn glinigol (sef y grŵp a oedd yn gwarchod) bellach yn cynnwys y rheini:
  • Sydd wedi cael trawsblaniad aren yn ddiweddar - y tri mis cyntaf ar ôl y trawsblaniad 
  • Sy'n cymryd lefel uchel o feddyginiaeth atal imiwnedd ar gyfer clefyd gweithredol sy'n destun triniaeth gychwynnol - y rheini sy'n cael triniaeth ar hyn o bryd neu a gwblhaodd driniaeth o fewn 6 wythnos, a hynny o steroidau dos uchel 20 mg/dydd neu uwch (neu 30 mg/m2/dydd) A cyclophosphamide neu rituximab neu gyffuriau imiwnoataliol nerthol iawn eraill 
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rheolaeth arnoch chi neu eich plentyn, cysylltwch â'ch meddyg ymgynghorol.

Mae rhai dolenni isod a allai fod yn ddefnyddiol i chi: