Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddoli gydag Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro

Galwad am Wirfoddolwyr Hyb yr Elusen Iechyd

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr cyfeillgar ac allblyg i gefnogi'r Elusen Iechyd yn ein Hyb Elusen Iechyd newydd sbon yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.Bydd Hyb yr Elusen Iechyd yn lle croesawgar, addysgiadol a diddorol sy'n cefnogi cleifion, ymwelwyr, cydweithwyr a'r gymuned ehangach.Mae'r Elusen Iechyd yn darparu cefnogaeth ar draws y Bwrdd Iechyd cyfan, gan gynnwys ar wardiau ysbytai, adrannau, gwasanaethau iechyd cymunedol, a meysydd ymchwil ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Fel Gwirfoddolwr Hyb yr Elusen Iechyd, byddwch yn croesawu ymwelwyr i'r hyb ac yn cynnig cefnogaeth gyffredinol neu gyfeirio pobl. Byddwch hefyd yn darparu gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau'r elusen a ffyrdd y gall pobl gymryd rhan.

 

Bydd ein Gwirfoddolwyr Hyb Elusen Iechyd delfrydol:
  • Yn hyderus wrth weithio gydag aelodau o'r cyhoedd ac aelodau staff
  • Yn gyfeillgar, allblyg, ac yn bobl hawdd mynd atynt
  • Yn wrandawyr da sy'n mwynhau sgwrsio â phobl
  • Yn barod i ymgymryd â hyfforddiant angenrheidiol

 

Bydd angen i wirfoddolwyr fod ar gael ar gyfer shifft 2 awr unwaith yr wythnos 11am - 1pm (Dydd Llun-Dydd Gwener) a gallu ymrwymo i o leiaf 6 mis o wirfoddoli gyda ni. Bydd angen i chi fod dros 18 oed i wneud cais am y rôl hon. Nid yw’r rôl h on yn cynnwys eiriolaeth na chwnsela.

 

Lawrlwythwch ddisgrifiadau rôl  am fwy o fanylion.

Darllenwch y Canllawiau Ymgeisio ar y dudalen we cyn gwneud cais am y rolau hyn. Bydd lleoedd yn gyfyngedig a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis yn dilyn cyfweliad. 

 

Gwneud cais ar-lein

 

Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch cais, neu gefnogaeth bellach i wneud y broses recriwtio'n fwy hygyrch i'ch anghenion, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Gwirfoddol i drafod sut allwn ni eich helpu.

Ebost: volunteer.enquiries.cav@wales.nhs.uk

 

Am ragor o wybodaeth am Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro, gallwch:

Edrych ar eu gwefan: https://healthcharity.wales/how-you-can-help/volunteering/
Anfon e-bost atynt yn: fundraising.cav@wales.nhs.uk
Neu eu ffonio ar: 02921 836 042

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni