Neidio i'r prif gynnwy

Troli Llyfrgell Ddigidol

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i fynd â’n troli llyfrgell ddigidol i wardiau cleifion mewnol yn ein hysbytai.

 

 

Bydd gwirfoddolwyr yn cofrestru mewn parau i fynd â’r troli i wardiau penodol, gan gynnig cyfle i gleifion fenthyg dyfais ddigidol, fel chwaraewr DVD cludadwy, DVDs, deunyddiau darllen, a phecynnau gweithgaredd.

Bydd gwirfoddolwyr yn helpu i wneud gwahaniaeth i ddiwrnod rhywun gyda wyneb cyfeillgar, sgwrs a chynnig ffilm iddynt wylio i basio'r amser.

 

Darllenwch y disgrifiad rôl llawn am ragor o wybodaeth.

 

Os hoffech wneud cais, defnyddiwch ein ffurflen gais ar-lein. Ceisiadau'n cau 7/12/2023.

Cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl gan ein bod yn cadw'r hawl i newid dyddiad cau'r cyfle hwn os bydd nifer sylweddol o bobl â diddordeb yn y rôl.