Mae BIPCAF yn hyrwyddo Adferiad Gwell ar ôl Llawdriniaeth (ERAS). Mae hyn yn golygu ein bod yn anelu at roi profiad cadarnhaol i’n cleifion, lleihau cymhlethdodau yn dilyn llawdriniaeth, a’ch cefnogi i fynd adref a dychwelyd i’ch gweithgareddau arferol cyn gynted â phosibl. Ar gyfer y rhan fwyaf o lawdriniaethau, ein nod yw eich bod yn Yfed, yn Bwyta ac yn Symud eto o fewn 24 awr o gael y llawdriniaeth, a elwir yn DrEaMing (Drinking, Eating and Mobilising). Mae cleifion sy’n gwneud hyn yn aml yn aros yn yr ysbyty am gyfnodau byrrach ac yn cael llai o gymhlethdodau.
Bydd gwirfoddolwyr yn hyrwyddo nodau DrEaMing; cefnogi ac annog cleifion i Yfed, Bwyta a Symud (Drink, Eat and Mobilise) ar y ward ar ôl llawdriniaeth, gan fod yn wyneb cyfeillgar ac yn gwmni i’r cleifion ar yr un pryd.
Prif dasgau:
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd:
Mae'r rôl hon yn cynnig hyblygrwydd dros 7 diwrnod, gofynnwn am ymrwymiad o 4 awr yr wythnos.
Mae cyfle hefyd i gefnogi mewn rolau gwirfoddol eraill o fewn y gwasanaeth Prehab2Rehab.
Darllenwch y rôl lawn cyn gwneud cais.
Defnyddiwch eich sgiliau, gwnewch wahaniaeth - gwnewch gais i fod yn rhan o Team DrEaM!
Mae'r rôl hon yn gofyn am ymrwymiad i gwblhau recriwtio o fewn 8 wythnos i dderbyn cynnig. Darllenwch ein canllaw Cam Wrth Gam i Recriwtio Gwirfoddolwyr.