Neidio i'r prif gynnwy

Cyfeillion Cleifion

Ceisiadau’n agor 19/02/2024 ac yn cau ar 08/03/2024 **(yn amodol ar argaeledd)

Mae ein Cyfeillion Ward yn rhyngweithio gyda chleifion a allai deimlo'n unig, ar wahân neu wedi diflasu ar y wardiau. Maen nhw'n treulio amser yn siarad gyda chleifion neu'n helpu gyda gweithgareddau wrth ymyl y gwely neu yn yr ystafell ddydd. Codwch ysbryd claf gydag ymweliad cyfeillgar a sgwrs, neu helpwch nhw i dreulio'r amser yn gwneud rhai gweithgareddau difyr.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais a dod yn rhan o’n tîm o Gyfeillion Cleifion anhygoel, dilynwch y ddolen hon i’r edrychwch ar ein disgrifiad rôl a’n canllaw recriwtio.

*** Cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl gan ein bod yn cadw'r hawl i newid dyddiad cau'r cyfle hwn os bydd nifer sylweddol o bobl â diddordeb yn y rôl.

Cais trwy ein dolen porth ymgeisio!

Os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais, neu gefnogaeth bellach i wneud y broses recriwtio’n fwy hygyrch i’ch anghenion, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Gwirfoddol i drafod sut allwn ni eich helpu.

E-bost: Volunteer.enquiries.cav@wales.nhs.uk 

Ffon: 029 218 45692