Gwnewch gais am un rôl yn unig, os gwelwch yn dda
Cofiwch gyflwyno'ch cais cyn gynted â phosibl gan ein bod yn cadw'r hawl i newid dyddiad cau'r cyfleoedd hyn os bydd nifer sylweddol o bobl â diddordeb yn y rolau.
Darllenwch y
Canllawiau Ymgeisio ar y dudalen we cyn gwneud cais am rôl. Bydd lleoedd yn gyfyngedig a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis yn dilyn cyfweliad.
Rydym yn eich annog i ddarllen y disgrifiad llawn o rôl gwirfoddolwr cyn penderfynu a oes rôl sy'n addas i chi.
Gwirfoddolwr Tîm Croeso – Ysbyty Plant Cymru (YPC)
Gwirfoddolwr Croesawydd Ward
Gwirfoddolwr y Tîm Croeso – Prif Adran Cleifion Allanol, Ysbyty Athrofaol Cymru
Gwirfoddolwr Gwasanaeth Asesu Gofal yr Henoed (ECAS)
Gwirfoddolwr y Tîm Croeso – Ysbyty Deintyddol y Brifysgol (UDH)
Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch cais, neu gefnogaeth bellach i wneud y broses recriwtio'n fwy hygyrch i'ch anghenion, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Gwirfoddol i drafod sut allwn ni eich helpu.
Ebost: Volunteer.enquiries.cav@wales.nhs.uk