Mae tîm brwdfrydig ac ymroddedig o nyrsys babanod newydd-anedig, uwch-ymarferwyr nyrsio babanod newydd-anedig, meddygon dan hyfforddiant a chymrodyr, meddygon ymgynghorol ac athro yn rheoli'r uned. Mae gan bob Meddyg Ymgynghorol faes arbenigedd a diddordeb ymchwil penodol.
Ymgynghorwyr y NICU |
|
Dr Amar Asokkumar Diddordeb Clinigol: Cludo babanod newydd-anedig a chardioleg |
Dr Rachel Hayward |
Dr Jennifer Calvert (Arweinydd Clinigol) Diddordeb Clinigol: Diagnosis cyn-geni a chanlyniad |
Yr Athro Sailesh Kotecha Diddordeb Clinigol: Anhwylderau anadlu'r baban newydd-anedig |
Dr Mallinath Chakraborty Diddordeb Clinigol: Awyru babanod newydd-anedig, ymchwil i fabanod newydd-anedig |
Dr Ian Morris Diddordeb Clinigol: Cludo babanod newydd-anedig |
Dr Cora Doherty Diddordeb Clinigol: Meddygaeth y ffetws a chyfyngu ar dwf yn y groth |
Dr Alok Sharma Diddordeb Clinigol: Cludo babanod newydd-anedig |
Dr Nitin Goel Diddordeb Clinigol: niwroddatblygiad, cronfeydd data a meincnodi, cardioleg |
Dr Elisa Smit Diddordeb Clinigol: Niwroleg a niwroamddiffyniad y baban newydd-anedig |
Dr Angela Hayward Diddordeb Clinigol: Cludo babanod newydd-anedig |
Mae'r lefelau staff nyrsio ar hyn o bryd yn rhyw 97 nyrs gyfwerth ag amser llawn, gyda bach iawn o swyddi gwag. Mae'r uned yn gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd, felly mae hyn yn rhoi cyfle delfrydol i staff gael hyfforddiant arbenigol pellach ar nyrsio babanod newydd-anedig.
Yn gyfan gwbl, mae 11 uwch brif nyrs ac un technegydd pwrpasol babanod newydd-anedig. Mae'r uned yn cynnig "gwasanaeth allgymorth", gydag ymweliadau â babanod gartref yn dilyn eu rhyddhau.
Mae'r prif nyrsys allgymorth hefyd yn rhedeg clinig profion gwaed ar gyfer y babanod hynny y mae angen profion gwaed pellach arnynt ar ôl eu rhyddhau.
Mae pump o addysgwyr ymarfer babanod newydd-anedig yn rhoi gwybod y diweddaraf i staff am ddatblygiadau diweddar ym maes nyrsio babanod newydd-anedig. Hefyd, mae 5 o grwpiau diddordeb arbennig yn yr adran, gan gynnwys bwydo ar y fron a grŵp ar gyfer gosod llinellau mewnwythiennol.
Rheolwr Uned y NICU Michelle Phillips |
Arweinydd y Tîm Allgymorth Jaqui Evans |