Mae'r rhan fwyaf o'n cleifion wedi'u geni yn yr ysbyty, ond ysbytai eraill fydd yn atgyfeirio tua chwarter ohonynt i ni. Trosglwyddiadau ex-utero brys yw'r cleifion hyn yn bennaf. Daw mwyafrif y cleifion hyn o ysbytai eraill yng Nghymru a daw lleiafrif bach iawn ohonynt o Loegr.
Yn gyffredinol, dilynir cleifion i fyny am gyfnod o hyd at flwyddyn i 2 flynedd, yna cânt eu rhyddhau neu eu hatgyfeirio i'r Tîm Pediatrig Cymunedol.
Mae bron pob un o'r cleifion sy'n cael eu gweld yn yr Adran Cleifion Allanol Babanod Newydd-anedig wedi graddio o'n NICU. Weithiau, bydd meddygon teulu'n atgyfeirio baban o'r gymuned i Gleifion Allanol Babanod Newydd-anedig.
Dylid bob amser atgyfeirio ar frys drwy'r Cofrestryddion Babanod Newydd-anedig ar alw. Gellir cysylltu â nhw drwy'r system blîp a hynny drwy'r Switsfwrdd, 029 2074 7747, neu drwy ffonio'r NICU ar 029 2074 2680 / 2684 a gofyn am y Cofrestrydd.
Yna, bydd y Cofrestrydd Babanod Newydd-anedig yn cysylltu â'r Meddyg Ymgynghorol a threfnir trosglwyddo'r claf. Naill ai bydd ein huned yn casglu'r claf neu bydd yr ysbyty atgyfeirio yn trosglwyddo'r claf i Ysbyty Athrofaol Cymru, yn dibynnu ar gyflwr clinigol y claf ac argaeledd staff.
Er mwyn trafod y rheolaeth ar achos neu i geisio cyngor, dylid cysylltu â'r Cofrestrydd Babanod Newydd-anedig drwy'r NICU neu'r Switsfwrdd. Fel arall, mae'n bosibl cysylltu â Meddygon Ymgynghorol Babanod Newydd-anedig drwy eu hysgrifenyddion neu drwy'r switsfwrdd y tu allan i oriau arferol.