Mae NICU yn ward brysur gyda 36 chrud. O'r rhain, mae 12 ohonynt yn grudiau gofal dwys, 10 yn grudiau dibyniaeth uchel a 14 yn grudiau gofal arbennig.
Mae 8 Meddyg Ymgynghorol yn rhannu'r gwaith o redeg y NICU, ar sail rota wythnosol. Ar hyn o bryd, mae 4 Cofrestrydd, 10 Meddyg Iau a 2 Ymarferydd Nyrsio ynghlwm wrth yr uned.
Mae 3 rownd ward bob dydd: yn y bore, am 1630 adeg trosglwyddo ac am 2200 y nos. Fore Mercher, mae gennym rownd fawr amlddisgyblaethol ac mae'r holl Feddygon Ymgynghorol Babanod Newydd-anedig yn cymryd rhan ynddi.
Gall rhieni a brodyr a chwiorydd ymweld â'r Uned Babanod Newydd-anedig rywbryd. Fodd bynnag, rydym ni'n gofyn i rieni adael yr uned yn ystod rowndiau ward, er mwyn parchu cyfrinachedd cleifion.
Byddwn yn ceisio darparu ystafell i rieni aros dros nos, yn enwedig rhieni sy'n byw'n bell i ffwrdd. Mae ystafelloedd ar gael i ni yn Nhŷ Croeso ac yn Nhŷ Peter Gray, ac mae'r ddau ohonynt gerllaw'r Uned Babanod Newydd-anedig.
Sefydlwyd Cardiff Special Care Baby Association (Elusen Gofrestredig: 511056) gan rieni a staff yr Uned Babanod Newydd-anedig ym 1987. O hyn, lluniwyd Grŵp Cymorth Rhieni Babanod mewn Gofal Arbennig (SCIPS), gyda'r nod o godi arian i dalu am offer, a chefnogi rhieni eraill sy'n mynd trwy brofiadau ingol tebyg tra bydd eu babanod yn yr Uned Babanod Newydd-anedig.
Cynhelir boreau coffi misol i rieni babanod a arferai gael gofal yn yr Uned Babanod Newydd-anedig, gyda chroeso a sesiwn galw heibio i rieni ac aelodau staff presennol. Cynhelir digwyddiadau cymdeithasol, fel nosweithiau cwis a nosweithiau chwarae sgitls, bob 4 mis. Mae SCIPS yn cynnal parti Nadolig blynyddol i gyn-gleifion a'u teuluoedd, ac yn cefnogi Gwasanaeth Coffa adeg y Pasg ar gyfer babanod câr, ymadawedig.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 029 2074 2680.