Bwriad yr adran hon o'r wefan yw darparu gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol.
Ein Gwasanaethau
- Cyfarfod amlddisgyblaethol wythnosol gydag Adran Meddygaeth y Ffetws gyda Chardioleg Bediatrig a Radioleg Bediatrig yn bresennol, i drafod rheoli esgor, genedigaeth a rheolaeth ôl-enedigol uniongyrchol cleifion Meddygaeth y Ffetws.
- Cyfarfodydd Llawdriniaeth Bediatrig wythnosol i drafod y rheolaeth barhaus ar gleifion llawfeddygol.
- Cyfarfodydd Radioleg Bediatrig wythnosol, i adolygu pelydrau X rheolaidd ac i drafod cleifion mwy cymhleth.
- Cyngor a chymorth ynghylch rheoli babanod newydd-anedig iach ar wardiau ôl-enedigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
- Rhoi cyngor dros y ffôn i ysbytai eraill ynghylch ymholiadau cyffredinol am fabanod newydd-anedig a, hefyd, ynghylch trosglwyddo cleifion i Ysbyty Athrofaol Cymru i barhau â'u rheoli'n feddygol.