Neidio i'r prif gynnwy

Codi Arian i T&O

Mae staff yr adran Trawma ac Orthopedig yn ddiolchgar iawn am y rhoddion hael a dderbyniwyd gan aelodau'r cyhoedd. Mae pob ceiniog a dderbyniwn yn cael ei gwario gan uwch feddygon a nyrsys yn ein hadran ar eitemau a phrosiectau a fydd o fudd i'n cleifion y tu hwnt i ddarpariaeth arferol y GIG.

Nid yw eich cefnogaeth yn cymryd lle cyllid y GIG. Yn lle hynny, mae'n gwella gwasanaethau i gleifion yn y ffyrdd a ganlyn:

  • prynu offer meddygol arloesol
  • darparu dodrefn newydd sbon ac eitemau eraill ar gyfer ein wardiau a'n mannau aros
  • ein helpu i fuddsoddi ymhellach mewn ymchwil ac astudiaethau clinigol
  • ein helpu i fuddsoddi mwy yn ein staff ymroddedig trwy ddarparu hyfforddiant mwy arbenigol.

Mae enghreifftiau o sut mae'ch rhoddion caredig wedi bod o fudd i'n cleifion yn cynnwys:

  • ariannu teganau, dodrefn a gwaith celf i blant ym mannau aros y clinig
  • arwyddion arbennig i gleifion ar ein wardiau sy'n caniatáu iddynt symud o gwmpas yn fwy annibynnol a diogel
  • hyfforddiant ychwanegol i staff ennill sgiliau uwch i ehangu eu harbenigedd a chaniatáu iddynt helpu ein cleifion ymhellach.

Rhoi rhodd

Gallwch ddarganfod mwy am y gwahanol ffyrdd y gallwch gyfrannu ar ein gwefan Elusen Iechyd

Cronfa Trawma ac Orthopedig

Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro

Rhif cyfrif 10008292

Cod Didoli 60-70-80

Dilynwch ni