Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'r Gwasanaeth Trawma ac Orthopedig

pelydr-x o law

Croeso i Ganolfan Iechyd Orthopedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Y gwasanaeth Trawma ac Orthopedig yw'r brif ganolfan GIG yng Nghymru sy'n darparu amrywiaeth eang o driniaeth i filoedd o bobl.

Mae'r tîm llawfeddygol yn cynnal mwy na 10,000 o lawdriniaethau bob blwyddyn - cymysgedd o driniaethau sydd wedi'u cynllunio i wella iechyd ac ansawdd bywyd pobl a llawdriniaeth achub bywyd brys i bobl o Gaerdydd, Bro Morgannwg ac ar draws Cymru.

Mae hefyd yn gartref i CAVOC (Canolfan Orthopedig Caerdydd a'r Fro) a'r Uned Cleifion Mewnol Llawfeddygaeth yr Asgwrn Cefn a Thrawma - y ddau yn darparu gofal rhagorol yn y cyfleusterau diweddaraf.

Tîm Rheoli'r Gyfarwyddiaeth

  • Mr Simon White, Cyfarwyddwr Clinigol
  • Gillian Edwards, Nyrs Arweiniol
  • Daniel Jones, Rheolwr y Gyfarwyddiaeth
  • Chris O'Callaghan, Dirprwy Reolwr y Gyfarwyddiaeth Dros Dro
  • Harriet Wilkinson, Rheolwr Gwasanaeth Trawma
  • Rachel Thomas, Rheolwr Gwasanaeth Orthopedig

 

Arweinwyr Clinigol

Traed a fferau: Declan O'Doherty

Dwylo: Dave Shewring and Andy Logan

Clun: Alun John

Pen-glin: Mark Forster

Pediatreg: Clare Carpenter

Ysgwydd: Richard Evans

Asgwrn Cefn: Iqroop Chopra

Trawma: James Lewis

Dilynwch ni