Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Niwrofodylu

Technoleg yw niwrofodylu sy'n gweithredu'n uniongyrchol ar y nerfau. Mae'n newid—neu'n modylu—gweithgarwch nerfau drwy gyflenwi cyfryngau fferyllol neu drydanol (symbylu madruddyn y cefn) yn syth i ardal darged.

Defnyddir hyn yng nghyd-destun poen parhaus difrifol neu sbastigedd oherwydd niwed i'r nerfau. Gellir trin nifer gynyddol o anhwylderau â Niwrofodylu e.e. Poen cronig y cefn/coesau, Poen abdomenol/pelfig, Syndrom Poen Rhanbarthol Cymhleth (CRPS), Poen wynebol, Niwralgia'r gwegil, Cur pen a sbastigedd yr Ymennydd/Asgwrn Cefn.

Triniaeth fewnwthiol yw niwrofodylu ond, i gleifion penodol y mae eu hanhwylderau cronig yn achosi dioddefaint ac anabledd, gall roi gollyngdod a gwellhad sylweddol, a hynny'n aml ar ôl i bob mesur arall fethu. 

Uned Niwrofodylu Caerdydd yw'r ganolfan atgyfeirio drydyddol i Gymru ac mae'n gweithio'n agos gyda thimau amlddisgyblaethol yn y clinig Poen Cymhleth yn ysbyty Rookwood a chlinigau poen cronig eraill.

Ni hefyd sy'n darparu'r gwasanaeth rhoi cyffuriau mewnweiniol (ITDD) i Gymru. Mae gennym ddau niwrolawfeddyg ymgynghorol a phedwar ymarferydd nyrsio rhoi cyffuriau mewnweiniol amser llawn sy'n gweithredu'r gwasanaeth.

Niwrolawfeddygon Ymgynghorol

Mr Chirag Patel (Poen cronig a Sbastigedd)

Mr Jozsef Lang (Sbastigedd)

 

Ymarferwyr Nyrsio ITDD 

Joanne John

Michelle Jenkins

Bethan Lever

Mari Walsh

 

Dolenni Defnyddiol

Symbylu madruddyn y cefn ar gyfer poen cronig

Cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru

Cymdeithas Poen Prydain: Poen a sbastigedd

Dilynwch ni