Neidio i'r prif gynnwy

Bôn y Benglog

Mae'r tîm bôn y benglog yng Nghaerdydd yn gweithio o Ysbyty Athrofaol Cymru. Grŵp amlddisgyblaethol o arbenigwyr sy'n arbenigo mewn trin anhwylderau cymhleth bôn y benglog ydyn ni, ac yn eu plith:  

  • Schwannoma festibwlar (neu niwroma acwstig)
  • Schwannoma nerfau creuanol eraill
  • Meningioma
  • Adenomâu pitwidol
  • Cranioffaryngioma
  • Tiwmorau glomws
  • Chordoma a chondrosarcoma
  • Codenni epidermoid a dermoid 
  • Tiwmorau malaen y trwyn, y sinysau a'r wyneb sy'n effeithio ar fôn y benglog

Cynigiwn wasanaeth cynhwysfawr sy'n cynnwys clinig pwrpasol bôn y benglog, clinigau NF2 arbenigol mewn cydweithrediad â gwasanaeth NF2 Manceinion ac adsefydlu festibwlar ac wynebol yn ôl yr angen.

Darparwn driniaethau bôn penglog agored, llawdriniaeth gymhleth i'r wyneb a'r benglog gydag adluniad wedi'i addasu a'i bersonoli, a llawdriniaeth endosgopig i fôn y benglog sy'n creu archoll mor fach â phosib.  

Darperir radiolawfeddygaeth stereotactig a radiotherapi stereotactig yn uniongyrchol gan y tîm gan ddefnyddio system bwrpasol ddiweddaraf un Truebeam STx yng Nghanolfan Canser Felindre.

Trafodwn achosion unigol mewn cyfarfod Tîm Amlddisgyblaethol Bôn y Benglog bob pythefnos. I wneud atgyfeiriad i'r ganolfan, cysylltwch ag un o aelodau'r tîm yn uniongyrchol neu cysylltwch â'n cydgysylltydd bôn y benglog:

 

Dolenni Defnyddiol

Cymdeithas Brydeinig Niwroma Acwstig

Cymdeithas Brydeinig Bôn y Benglog

The Pituitary Foundation

Meningioma UK

Aelodau'r Tîm

 

Y Glust, y Trwyn a'r Gwddf

  • Mr Benjamin Stew

Niwrolawfeddygaeth

  • Miss Caroline Hayhurst
  • Mr Amr Mohamed

Llawdriniaeth Offthalmig

  • Mr Dan Morris
  • Mrs Anjana Haridas

Llawdriniaeth Gên ac Wyneb 

  • Mr Satyajeet Bhatia

Oncoleg Glinigol

  • Dr Nachi Palaniappan
  • Dr Jillian MacLean

Radioleg

  • Dr Margaret Hourihan
  • Dr Stefan Schwarz

Cydgysylltydd Bôn y Benglog

  • Kay Green

Meddygaeth Awdiofestibwlar 

  • Dr Deepak Rajenderkumar

Arbenigwyr Rhanbarthol

  • Miss Julia AddamsWilliams – y Glust, y Trwyn a'r Gwddf - Ysbyty Brenhinol Gwent
  • Mr Steven Backhouse – y Glust, y Trwyn a'r Gwddf - Ysbyty Tywysoges Cymru
Dilynwch ni