Mae Profion Potensial Corfforol-synhwyraidd a Ysgogwyd (SSEP) yn mesur pa mor gyflym mae nerf yn gweithio. Caiff disgiau eu gosod ar y pen a phadiau ar arwyneb croen y breichiau a/neu'r coesau. Yna, caiff y nerfau eu hysgogi. Mae hyn yn teimlo fel tapio neu oglais.
Nid oes gan y prawf unrhyw ôl-effeithiau.
Mae'n bwysig bod eich gwallt yn lân ac nad oes unrhyw gynhyrchion na chosmetigau eraill arno. Gwisgwch ddillad llac fel y gellir cael at y fferau, yr arddyrnau a'r ysgwyddau yn hawdd. Peidiwch â gwisgo gormod o fodrwyon/gemwaith, oherwydd gall fod angen eu tynnu ar gyfer y prawf.
Daliwch ati i gymryd eich meddyginiaethau arferol.
Yn y prawf arc, mae'n rhaid edrych ar un gwrthrych ac ymateb i ail wrthrych sy'n symud, i dynnu llun map o'ch golwg. Defnyddir clwt llygad er mwyn mapio pob llygad ar wahân. Os ydych chi'n gwisgo sbectol, dewch â hi gyda chi.
Mae'r prawf hwn yn mesur cryfder grwpiau cyhyrau amrywiol. Mae'n cymryd tua 30 munud. Gwisgwch ddillad cyfforddus sy'n addas ar gyfer ymarfer corff ysgafn.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.