Mae'r Adran Niwroffisioleg yn cynnal amrywiaeth o brofion sy'n siartio gwahanol weithgareddau'r ymennydd a gweithgareddau niwrolegol. Mae'r profion hyn yn cofnodi:
- Ysgogiadau trydanol yn yr ymennydd (Electroenceffalogram).
- Signalau trydanol sy'n teithio ar hyd nerfau yn y breichiau/coesau (Astudiaethau Dargludiad Nerfol).
- Gweithgarwch trydanol yn y cyhyrau (Electromyogram).
- Ymateb y retina (y llygaid) i gyffroad golau. (Electroretinogram/Potensial Gweledol a Ysgogwyd)
- Ymatebion yr ymennydd a llinyn yr asgwrn cefn i botensialau a ysgogwyd. (Potensial Corfforol-synhwyraidd a Ysgogwyd)