Neidio i'r prif gynnwy

SilverCloud

Mae SilverCloud yn cynnig rhaglenni therapi gwybyddol ymddygiadol ar gyfer pobl sy’n 16 oed ac yn hŷn, sydd â lefelau ysgafn neu gymedrol o iselder, gorbryder neu straen. 

Edrychwch ar y rhestr o raglenni a dewiswch un i’w chwblhau dros gyfnod o 12 wythnos. I gael y canlyniadau gorau, dylid defnyddio’r platfform 15-20 munud y dydd, tair i bedair gwaith yr wythnos. Cewch adborth bob pythefnos gan Gefnogwr SilverCloud cymwys wrth i chi weithio eich ffordd drwy’r rhaglen. 

Mae’r rhaglenni ar-lein canlynol ar gael drwy hunan-gyfeiriad. Golyga hyn y gallwch gael mynediad uniongyrchol at y rhaglenni hyn heb yr angen i weld eich Meddyg Teulu:

  • Man rhag COVID-19
  • Man rhag Pryder ac Iselder
  • Man rhag Straen*
  • Man rhag Iselder*+
  • Man rhag Problemau Ariannol
  • Man ar gyfer Gwytnwch*
  • Man ar gyfer Cwsg
  • Man ar gyfer Delwedd Gadarnhaol y Corff
  • Man rhag Pryder Cymdeithasol
  • Man rhag Pryder Cyffredinol
  • Man rhag Pryder ynghylch Iechyd
  • Man rhag OCD
  • Man rhag Panig
  • Man rhag Ffobia
  • Man rhag Pryder (CAMHS – Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc – 16-17 oed
  • Man rhag Alcohol
  • Man rhag Lles Amenedigol

*  Fersiwn i fyfyrwyr ar gael
+ Ar gael yn Gymraeg

Rhaid eich bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, neu’n byw yng Nghymru, ac nad ydych eisoes yn derbyn cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu drydyddol, megis o dan ofal seiciatrydd neu seicolegydd.

Mwy o wybodaeth am SilverCloud.

Dilynwch ni