Neidio i'r prif gynnwy

Arloesedd, Ymchwil a Datblygu

Mae’r Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl wedi ymrwymo i weithio gydag ystod o bartneriaid i wella iechyd meddwl, gofal, triniaeth ac adferiad ein holl gleifion o fewn gwasanaethau iechyd meddwl generig a meysydd arbenigol.

Rydym yn gweithio’n agos gydag Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd mewn pedwar maes ymchwil allweddol:

  • Optimeiddio Lles a Rheoli Cyflyrau Hirdymor
  • Optimeiddio Darparu a Threfnu Gwasanaethau
  • Optimeiddio Iechyd trwy Weithgarwch, ffyrdd o fyw a Thechnoleg

CRIS a Chyfranogi

Ochr yn ochr â chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym wedi rhoi’r system Clinical Record Interactive Search (CRIS) ar waith sy’n adfer ac yn dad-adnabod data yn ddiogel yn system PARIS y bwrdd iechyd, y gellir ei defnyddio at ddibenion archwilio, gwerthuso gwasanaethau ac ymchwil.

Rydym hefyd wedi lansio ein dull Cyfranogi i godi ymwybyddiaeth am yr ymchwil yr ydym yn ei gynnal, gan roi mwy o gyfleoedd i ddefnyddwyr gwasanaethau gymryd rhan.

Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH)

Mae'r NCMH yn gweithio gydag adran Iechyd Meddwl BIP Caerdydd a'r Fro i ddeall achosion cyflyrau iechyd meddwl y well, ac wrthi'n recriwtio unigolion i gymryd rhan mewn ymchwil.

Gall unrhyw un helpu, ac fel arfer mae'n cymryd llai nag awr. Mae'n cynnwys:

  • cyfarfod byr gydag un o’n hymchwilwyr, naill ai yn eich cartref neu mewn clinig lleol
  • cwblhau a dychwelyd rhai holiaduron
  • darparu sampl fach o waed

 

Dilynwch ni