Mae’r ffisiotherapyddion arbenigol o fewn tîm Niwrowyddoniaeth Pediatrig Acíwt yn darparu gwasanaeth cleifion mewnol i blant yn dilyn anaf newydd i’r ymennydd neu salwch niwrofeddygol acíwt sy’n arwain at rwystrau yng ngallu’r plentyn i symud, cydbwyso neu gydlynu symudiadau.
Mae hyn yn cynnwys
Pan fydd angen, rydym hefyd yn asesu a llunio rhaglenni ar gyfer cleifion mewnol sy’n fabanod gyda phryderon niwrolegol neu ddatblygiadol.
Rydym yn cydweithio’n agos â phlant a’u teuluoedd i sicrhau triniaethau penodol sy’n addas i nodau a phroblemau unigol yr unigolyn.
Ein nod yw gwneud sesiynau mor hwyliog â phosibl a defnyddio gemau a theganau i annog symudiadau a gweithgarwch corfforol. Mae’r triniaethau yn cynnwys:
Yn achos plant sydd ag anghenion adsefydlu hirach, rydym yn cydweithio’n agos gyda’r teulu, Therapi Galwedigaethol a chydweithwyr Diagnosis a Therapi Meddygol eraill i geisio hwyluso gwyliau penwythnos, er mwyn caniatáu amser teuluol gyda’i gilydd a gosod nodau therapi newydd i weithio tuag atynt.
Rydym yn cynnal sesiynau ar y cyd gyda chydweithwyr mewn arbenigeddau ffisiotherapi pediatrig eraill, yn ogystal â Therapyddion Iaith a Lleferydd a Therapyddion Galwedigaethol. Mae gennym rôl allweddol o fewn y Tîm Niwroadsefydlu ac rydym yn cysylltu’n agos â therapyddion cymunedol i sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau adref yn ddiogel neu i ysbytai lleol.