Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS) yn darparu hyfforddiant, ymgynghoriad a chyngor i weithwyr proffesiynol mewn gwasanaethau eraill sy'n cefnogi unigolion awtistig neu'r rhai yr amheuir bod ganddynt awtistiaeth. Os yw rhywun yn bodloni'r meini prawf ar gyfer gwasanaeth arall, dylai eu prif gefnogaeth gael ei darparu gan y gwasanaeth hwnnw. Fodd bynnag, mae'r IAS yn gallu cynnig cyngor arbenigol a gweithio ar y cyd i wella gwybodaeth am awtistiaeth a sgiliau ar draws gwasanaethau.
Mae enghreifftiau o’r cymorth yn cynnwys:
Canllawiau ar addasu asesiadau ac ymyriadau ar gyfer pobl awtistig
Ystyriaethau amgylcheddol i gefnogi anghenion awtistig
Cyngor ar lwybrau atgyfeirio ac ymholiadau cysylltiedig
Am unrhyw gwestiynau ynghylch cael mynediad at y gwasanaethau hyn, cysylltwch â'r IAS drwy e-bost
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.