Mae'r Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau yng Nghaerdydd a'r Fro (CAF 24/7) yn darparu llinell gyngor deintyddol frys 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar 0300 10 20 247 . Mae'r gwasanaeth ar gael i gleifion sy'n profi:
Os oes angen, mae apwyntiadau brys ar gael rhwng 08:00 a 17:00, 7 diwrnod yr wythnos. Y tu allan i'r amser hwn, cynigir cyngor hunanofal i chi wrth aros am yr apwyntiad nesaf sydd ar gael. Nid oes apwyntiadau deintyddol ar gael dros nos.
Pan fyddwch chi'n ffonio'r gwasanaeth, bydd swyddog galwadau yn cymryd gwybodaeth sylfaenol gennych chi gan gynnwys y rheswm dros yr alwad, er mwyn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw bryderon sy'n peryglu bywyd. Ar ôl i hyn gael ei wneud, bydd clinigwr yn cysylltu â chi i asesu eich symptomau, gofyn cwestiynau pellach a phenderfynu ar y camau nesaf mwyaf priodol ar gyfer eich gofal.
Gall y clinigwr roi cyngor hunanofal gan gynnwys cyngor ar leddfu poen, cynnig apwyntiad (os yw'n briodol) neu eich atgyfeirio at dîm y Genau a’r Wyneb. Cofiwch, nid oes angen apwyntiad wyneb yn wyneb ar gyfer pob pryder deintyddol.
Bydd cleifion sy'n mynychu apwyntiad yn talu ffi annibynnol a bennir gan Lywodraeth Cymru a godwyd i £30.00 ar 1af Ebrill 2024. Bydd hyn yn cynnwys asesiad, diagnosis a gofal ataliol.
Os oes angen, darperir pelydrau-X, triniaethau i atal symptomau rhag gwaethygu’n sylweddol neu driniaethau i fynd i'r afael â phoen difrifol.
Mae'n ofynnol i bob claf dalu'r tâl oni bai eu bod wedi'u heithrio neu'n gymwys i gael cymorth gyda rhan o gost y driniaeth.
Mae gan gleifion hawl i wasanaethau deintyddol (Brys) y GIG am ddim ar ddiwrnod cyntaf y driniaeth os ydynt:
Mae gan gleifion hefyd hawl i driniaeth ddeintyddol am ddim os ydynt, pan fydd y driniaeth yn dechrau neu pan godir y tâl:
Mae gan gleifion hawl i wasanaethau deintyddol y GIG am ddim os cânt eu henwi ar dystysgrif HC2 ddilys. Gall cleifion hefyd fod â hawl i wasanaethau deintyddol y GIG am gost is os cânt eu henwi ar dystysgrif HC3 sy'n ddilys yn ystod y driniaeth.
Gallwch, mae'r gwasanaeth ar gael i'r rhai sydd angen gofal brys ac nad ydynt wedi cofrestru gydag ymarferydd deintydd cyffredinol ac i'r rhai sydd angen gofal deintyddol brys y tu allan i oriau agor eu deintydd rheolaidd.
Mae apwyntiadau deintyddol brys ar gael i oedolion a phlant ledled ardal Caerdydd a'r Fro. Yn dilyn brysbennu dros y ffôn, bydd apwyntiad yn cael ei drefnu i blant sydd angen gofal deintyddol brys gweithredol gydag un o'r darparwyr sydd ar gael.
Nid yw Gwasanaeth Deintyddol Brys Caerdydd a'r Fro yn darparu apwyntiadau rheolaidd, triniaeth bellach/ddilynol nac apwyntiadau adolygu.
Mae gwasanaethau cyfieithu dros y ffôn ar gael i gefnogi anghenion cyfathrebu cleifion. Mae cymorth iaith cyflym, diogel a dibynadwy ar gael 24/7 mewn dros 270 o ieithoedd, gan alluogi cyfathrebu llafar rhwng cyfranogwyr mewn gwahanol ieithoedd.
Mae LanguageLine Solutions yn darparu mynediad cyflym a dibynadwy at gyfieithwyr hyfforddedig sy'n hwyluso sgyrsiau amser real. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://www.languageline.com/.
Mae Relay UK yn helpu pobl fyddar, pobl â nam ar eu lleferydd, a phobl sy'n clywed i siarad â'i gilydd dros y ffôn gan ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid cenedlaethol. Gall busnesau, meddygon ac ysbytai gysylltu â chleifion yn haws drwy TextNumber. Mae rhagor o wybodaeth am gael TextNumber ar gael yma: TextNumbers - Relay UK Services | Relay UK
Nod gofal deintyddol brys yw mynd i'r afael â'r broblem uniongyrchol drwy leddfu poen, trin haint, neu atal dirywiad pellach. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen atgyfeirio at wasanaeth arall ar gyfer triniaeth bellach.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.