Beth yw'r Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol?
Mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol (GDS) yn darparu deintyddiaeth, archwiliadau a thriniaethau stryd fawr y GIG.
Mae Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG (GDS) yn cael eu darparu gan ymarferwyr deintyddol cyffredinol. Mae'r deintyddion hyn wedi'u contractio gan Fwrdd Iechyd lleol y GIG i ddarparu gofal a thriniaeth ddeintyddol gyffredinol i gleifion.
Bydd y GIG yn darparu triniaeth a chyngor hunanofal i gadw'ch ceg, eich dannedd a'ch deintgig yn iach ac yn rhydd o boen.
Mae pob practis deintyddol yn darparu'r ystod lawn o driniaethau'r GIG i gleifion rheolaidd, gan gynnwys mynediad at ofal brys yn ystod oriau gwaith arferol.
Bydd eich deintydd yn cynnig opsiynau triniaeth i chi sy'n briodol yn glinigol a bydd yn egluro pa driniaethau y gellir eu darparu ar y GIG a pha rai y gellir eu darparu'n breifat. Rhoddir syniad o’r pris hefyd.
Ble gallaf ddod o hyd i Bractis Deintyddol Cyffredinol?
Os ydych yn chwilio am ddeintydd rheolaidd, bydd angen i chi ymuno â Rhestr Aros Ganolog Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro drwy ddilyn y ddolen isod: