Mae'r Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau yng Nghaerdydd a'r Fro (CAF 24/7) yn darparu llinell gyngor deintyddol frys 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar 0300 10 20 247 . Mae'r gwasanaeth ar gael i gleifion sy'n profi:
Os oes angen, mae apwyntiadau brys ar gael rhwng 08:00 a 17:00, 7 diwrnod yr wythnos. Y tu allan i'r amser hwn, cynigir cyngor hunanofal i chi wrth aros am yr apwyntiad nesaf sydd ar gael. Nid oes apwyntiadau deintyddol ar gael dros nos.
Pan fyddwch chi'n ffonio'r gwasanaeth, bydd swyddog galwadau yn cymryd gwybodaeth sylfaenol gennych chi gan gynnwys y rheswm dros yr alwad, er mwyn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw bryderon sy'n peryglu bywyd. Ar ôl i hyn gael ei wneud, bydd clinigwr yn cysylltu â chi i asesu eich symptomau, gofyn cwestiynau pellach a phenderfynu ar y camau nesaf mwyaf priodol ar gyfer eich gofal.
Gall y clinigwr roi cyngor hunanofal gan gynnwys cyngor ar leddfu poen, cynnig apwyntiad (os yw'n briodol) neu eich atgyfeirio at dîm y Genau a’r Wyneb. Cofiwch, nid oes angen apwyntiad wyneb yn wyneb ar gyfer pob pryder deintyddol.
Bydd cleifion sy'n mynychu apwyntiad yn talu ffi annibynnol a bennir gan Lywodraeth Cymru a godwyd i £30.00 ar 1af Ebrill 2024. Bydd hyn yn cynnwys asesiad, diagnosis a gofal ataliol.
Os oes angen, darperir pelydrau-X, triniaethau i atal symptomau rhag gwaethygu’n sylweddol neu driniaethau i fynd i'r afael â phoen difrifol.
Mae'n ofynnol i bob claf dalu'r tâl oni bai eu bod wedi'u heithrio neu'n gymwys i gael cymorth gyda rhan o gost y driniaeth.
Mae gan gleifion hawl i wasanaethau deintyddol (Brys) y GIG am ddim ar ddiwrnod cyntaf y driniaeth os ydynt:
Mae gan gleifion hefyd hawl i driniaeth ddeintyddol am ddim os ydynt, pan fydd y driniaeth yn dechrau neu pan godir y tâl:
Mae gan gleifion hawl i wasanaethau deintyddol y GIG am ddim os cânt eu henwi ar dystysgrif HC2 ddilys. Gall cleifion hefyd fod â hawl i wasanaethau deintyddol y GIG am gost is os cânt eu henwi ar dystysgrif HC3 sy'n ddilys yn ystod y driniaeth.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch ffioedd deintyddol ac eithriadau ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.
Am ragor o gymorth a chyngor deintyddol, gellir cael mynediad at wefan GIG 111 Cymru.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.