Rydym yn gweithio'n agos gyda thimau anabledd dysgu mewn gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae ein tîm yn ymdrechu i sicrhau pryd bynnag y bydd rhywun ag anabledd dysgu yn ymweld ag adran neu'n cael ei dderbyn ar ward, y bydd yn cael y gofal a’r driniaeth y mae’n ei haeddu.
Mae ein tîm nyrsio arbenigol yn 'hyrwyddwyr anabledd dysgu' a bydd yn gweithio i sicrhau:
Bod cleifion ag anableddau dysgu yn cael eu hadnabod yn gynnar.
Gofal a thriniaeth ag urddas, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
Cyfathrebu effeithiol gyda chleifion, gofalwyr, aelodau teulu a chlinigwyr
Dull effeithiol o adolygu a chynllunio rhyddhau cleifion
Rydym yn annog cleifion neu eu teuluoedd i gwblhau 'Proffil Iechyd' a dod â’r proffil gyda nhw i’w hapwyntiadau neu eu harhosiad yn yr ysbyty. Defnyddio ‘Proffil Iechyd’ yw’r ffordd orau o oresgyn unrhyw rwystrau gan ei fod yn helpu i oresgyn unrhyw broblemau cyfathrebu, mae’n rhoi gwybodaeth feddygol hanfodol i nyrsys a chlinigwyr ac yn bwysicaf oll bydd yn annog staff i wneud unrhyw addasiadau rhesymol i wneud yr ymweliad ysbyty/meddygol yn brofiad gwell.
Dysgwch fwy am y Proffil Iechyd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Os oes gennych chi neu aelod o'ch teulu apwyntiad ar gyfer y galon yn y dyfodol agos neu dderbyniad a gynlluniwyd i’r ysbyty ac yr hoffech drafod unrhyw ymholiadau neu bryderon, cysylltwch â'n tîm nyrsys arbenigol ACHD ar 02921 844580 / achdnurse.cav@wales.nhs.uk
Profion gwaed ar gyfer pobl ag anableddau dysgu: gwneud addasiadau rhesymol
Cael gwiriad cyn llawdriniaeth
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth anabledd dysgu, ewch i Sefydliad Paul Ridd.
|
|
Manylion Cyswllt |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
Mae ADYau yn cwmpasu pob Ysbyty: |
Michelle Williams |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Ysbyty Gwynedd |
Sian Lewis |
Ysbyty Glan Clwyd |
Simon Meadowcroft |
|
Ysbyty Maelor Wrecsam |
Metron – Kim Scandariato |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
Ysbyty Athrofaol Cymru |
Rhiannon Smith (I ffwrdd o'r swydd ar hyn o bryd) |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg |
Ysbyty'r Tywysog Siarl |
Beth Williams |
Ysbyty Tywysoges Cymru |
Judith Wall |
|
Ysbyty Brenhinol Morgannwg |
Judith Wall a Beth Williams |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Ysbyty Bronglais |
Teresa Hassell |
Ysbyty Llwynhelyg |
Lisa-Marie Hassall |
|
Ysbyty Glangwili |
Linda Phillips |
|
Tîm Gweithredu Iechyd |
Arweinydd Proffesiynol Nyrsio Cyswllt – Laura Andrews |
|
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys |
Gogledd Powys |
Deborah O'Shea - Nyrs Anabledd Dysgu Cymunedol |
Tîm Anabledd Dysgu De Powys |
Catherine Davies - Nyrs Gyswllt Gofal Cymunedol Anableddau Dysgu |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe |
Ysbyty Treforys |
Kara Knowles |
Ysbyty Castell-nedd Port Talbot |
Sharon Dixon a Helen Lewis (rhannu swydd) |
|
Ysbyty Singleton |
Sharon Dixon a Helen Lewis (rhannu swydd) |