Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Endosgopi

Mae amrywiaeth o wahanol driniaethau endosgopi yn cael eu cynnal yn BIP Caerdydd a'r Fro. Gellir eu cynnal i ymchwilio a diagnosio achos dros eich symptomau neu i gael triniaeth (triniaeth therapiwtig). Amlinellir y triniaethau a berfformir amlaf isod:

  • Broncosgopi - archwiliad o'ch llwybrau anadlu (ysgyfaint).
  • Endosgopi capsiwl - archwiliad o'ch coluddyn bach gan ddefnyddio capsiwl maint tabled.
  • Colonosgopi - archwiliad o'ch coluddyn mawr (colon).
  • EBUS (uwchsain endobroncial) - archwilio'r ysgyfaint a'r meinwe o'u cwmpas gan ddefnyddio chwiliedydd uwchsain arbennig.
  • EUS (uwchsain endosgopig) - archwiliad o'r oesoffagws, dwythellau bustl, chwarren pancreas neu'r rectwm gan ddefnyddio chwiliedydd uwchsain arbennig.
  • Gastrosgopi (a elwir hefyd yn endosgopi GI uchaf neu OGD) - archwiliad o'r oesoffagws, stumog a rhan gyntaf y coluddyn bach o'r enw'r dwodenwm.
  • PEG (Gastrostomi Endosgopig trwy'r croen) - tiwb bwydo wedi'i fewnosod yn y stumog trwy'r wal abdomenol.
  • Sigmoidosgopi - archwiliad o ochr chwith eich coluddyn mawr (colon).

Dim ond ar un o safleoedd yr ysbyty y cyflawnir rhai triniaethau oherwydd eu natur arbenigol a'r offer penodol sydd ei angen.

Perfformir triniaethau colonosgopi sgrinio canser y coluddyn yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae'r ysbyty hwn hefyd yn darparu gwasanaeth rhanbarthol ar gyfer triniaethau endosgopi cymhleth (e.e. tynnu polypau mawr).

Dilynwch ni