Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Asesu a Thrin Cyhyrysgerbydol Clinigol

CMATS logo

Mae'r Gwasanaeth Asesu a Thrin Cyhyrysgerbydol Clinigol (CMATS) yn adlewyrchu'r arfer gorau cyfredol ledled Cymru ac yn cynnig i'n cleifion ffordd newydd a gwell o gael cyngor arbenigol ar gyfer anhwylderau cyhyrysgerbydol.

Mae'r gwasanaeth hwn yn arbenigo mewn asesu a thrin problemau cymalau a chyhyrau, a hynny mewn modd amserol ac yn agos at gartref, ac yn lleihau'r angen i ddefnyddio gwasanaethau ysbyty mwy o faint i gael barn arbenigol.

Caiff y gwasanaeth atgyfeiriadau gan feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ar gyfer cleifion â phroblemau cymalau neu gyhyrau sydd heb eu datrys gan reolaeth gyntaf. Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol a hyfforddedig yn nhîm CMATS weld y cleifion hyn i roi rhagor o opsiynau triniaeth.

Arddangosodd cynllun peilot fod CMATS yn cynyddu boddhad cleifion o gymharu â gwasanaethau blaenorol, wedi llwyddo i weld cleifion yn gyflymach ac wedi gwella prosesau i sicrhau effeithlonrwydd. Mae'n ffordd well o roi'r gofal gorau i'n cleifion, felly bydd ar gael bellach i gleifion ledled BIP Caerdydd a'r Fro.

Gweithredir CMATS gan dîm amlddisgyblaeth sy'n cynnwys uwch ymarferwyr ffisiotherapi a meddygon teulu â diddordeb arbennig yn y cyhyrysgerbydol. Cydweithia'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyn i rannu arbenigedd, cefnogi ei gilydd a darparu'r gwasanaeth gorau posibl i gleifion sy'n defnyddio CMATS. Fe'u cefnogir gan eu cydweithwyr llawfeddygaeth orthopaedig.

Mae'n holl bwysig sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fodloni anghenion ei gleifion. O ganlyniad, bydd profiad y claf a chanlyniadau'r gwasanaeth yn parhau i gael eu monitro.

 

x-ray of knees
Gwybodaeth i Gleifion CMATS

Gwybodaeth ddefnyddiol am anhwylderau cyhyrysgerbydol a'r broses drin. 

CMATS i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol

Gwybodaeth i'r proffesiynau gofal iechyd a sut mae cyfeirio claf i wasanaeth CMATS.

Dilynwch ni