Neidio i'r prif gynnwy

CMATS i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol

I bwy mae'r gwasanaeth a sut mae cael ato?

Erbyn hyn, gall cleifion gael at wasanaeth CMATS ar gyfer eu hanhwylderau ysgwydd, pen-glin, asgwrn cefn a chlun. Datblygwyd llwybrau i ddangos pryd i atyfeirio i'r gwasanaeth hwn ym mhob achos a pha reolaeth geidwadol y dylid fod wedi'i cheisio'n wreiddiol.

Dylai unrhyw un sy'n atgyfeirio i'r gwasanaeth sicrhau bod yr atgyfeiriad yn dangos yn glir fod y llwybr perthnasol wedi'i ddilyn ac y rhoddwyd cynnig ar y driniaeth geidwadol a nodwyd a bod honno wedi methu, er mwyn derbyn atgyfeiriad. Mae'r llwybrau'n seiliedig ar dystiolaeth, yn defnyddio delweddu'n ddarbodus, yn cyfeirio at ffynonellau defnyddiol o wybodaeth cleifion ac wedi'u cytuno gan yr holl randdeiliaid.

Bydd CMATS yn rhith-frysbennu pob atgyfeiriad i sicrhau y caiff ei dderbyn neu ei ailgyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol. Bydd yr atgyfeiriadau hynny y mae'n amlwg bod angen barn llawfeddyg orthopaedig ymgynghorol arnynt yn cael eu hailgyfeirio yn ystod y broses rith-frysbennu hon cyn gynted ag y cânt eu darllen. 

Un elfen allweddol o wasanaeth CMATS fu ystyried dulliau rheoli ffordd o fyw, gan gynnwys rheoli pwysau a rhoi'r gorau i smygu. Mae'r ddogfen gefnogi gysylltiedig ar gael isod:

I atgyfeirio claf i wasanaeth CMATS ar gyfer anhwylder ysgwydd, pen-glin, clun neu asgwrn cefn, dewiswch CMATS – y Gwasanaeth Asesu a Thrin Cyhyrysgerbydol Clinigol ar Borth Cyfathrebu Clinigol Cymru (PCCC).

Yn dilyn apwyntiad gyda'r gwasanaeth hwnnw, anfonir llythyr sy'n crynhoi'r canlyniadau yn ôl at feddyg teulu'r claf. 

Ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i gefnogi llwybrau CMATS

Dilynwch ni