Mae ffisiotherapyddion yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau a dulliau. Yn dilyn asesiad byddwch chi a'ch Ffisiotherapydd yn datblygu cynllun triniaeth unigol. Bydd y cynllun hwn yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd gennych chi a'ch atgyfeiriwr, a chanfyddiadau archwiliad corfforol.
Gall cynlluniau triniaeth ffisiotherapi gynnwys rhai o'r canlynol:
Datblygir cynlluniau triniaeth unigol ar sail cyflwyniad clinigol ac mewn partneriaeth â chleifion.
Mae pob Ffisiotherapydd wedi'i siarteru a'i gofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd. Mae hyn yn sicrhau bod ei gymhwyster wedi'i gydnabod, ei fod yn cael ei lywodraethu gan god ymddygiad proffesiynol a'i ddiogelu gan yswiriant atebolrwydd proffesiynol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi.
Darperir rhai triniaethau a gweithgareddau grŵp gan staff cymorth anghofrestredig sydd wedi'u hyfforddi'n briodol.
Mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cefnogi hyfforddiant myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ac mae'n bosibl y bydd myfyrwyr yn bresennol yn eich ymgynghoriad. Os oes gennych bryderon ynghylch hyn neu unrhyw gwestiynau eraill, rhowch wybod i staff y clinig.