Neidio i'r prif gynnwy

Gair am Ein Gwasanaeth

Nodau a Disgwyliadau ein Gwasanaeth

Ein Nodau

Mae ein tîm yn ceisio:

  • sicrhau bod cleifion yn cael eu trin ag urddas a pharch bob amser
  • darparu gwasanaeth diogel, graenus sy'n gwella o hyd
  • cynnwys cleifion mewn penderfyniadau am eu gofal a'u triniaeth, a rhoi gwybodaeth iddynt wneud dewisiadau gwybodus
  • grymuso cleifion â'r wybodaeth a'r sgiliau i hunanreoli fel sy'n ymarferol ar ôl i'w triniaeth ddod i ben.

Disgwyliadau

Mewn ymgais at gyflawni'r canlyniadau gorau posibl, disgwyliwn y canlynol gan ein cleifion: 

  • cyrraedd mewn pryd i'ch apwyntiad, neu roi gwybod i'ch adran Ffisiotherapi os nad allwch ddod. Efallai bydd modd rhoi eich apwyntiad i rywun arall
  • trin staff y GIG, cleifion eraill ac ymwelwyr â pharch
  • gwrando'n ofalus ar gyngor gan eich Ffisiotherapydd a chymryd rhan weithgar yn eich triniaeth a'ch adsefydlu.
Dilynwch ni