Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

Dyma rai Cwestiynau Cyffredin a fu'n ddefnyddiol i gleifion.

Bydd eich Ffisiotherapydd yn cynnal asesiad cynhwysfawr a fydd yn cynnwys eich holi am eich anhwylder, ac yna archwiliad corfforol. Defnyddir yr wybodaeth hon i benderfynu ar y driniaeth orau ar gyfer eich anhwylder.

Gall triniaeth gynnwys cyfuniad o gyngor, ymarfer corff, technegau llaw, cywiro osgo, Aciwbigo, triniaethau electrotherapi neu Hydrotherapi. Bydd eich Ffisiotherapydd yn trafod y driniaeth orau gyda chi. Gyda'ch gilydd byddwch yn gosod nodau ar gyfer yr hyn y ceisiwch ei gyflawni o'ch triniaeth.

 

Gall ffisiotherapi fod yn ddefnyddiol i reoli anhwylderau sy'n ymwneud â'r cymalau, y nerfau a meinwe feddal. Mae hyn yn cynnwys problemau cefn a gwddf, anafiadau cymalau fel ysgwyddau, cluniau neu bengliniau, anafiadau meinwe feddal gan gynnwys ysigo gewynnau ac anafu/rhwygo cyhyrau, anhwylderau arthritig neu ôl-lawdriniaeth neu yn dilyn toresgyrn. Mae ffisiotherapi'n defnyddio triniaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn dilyn arfer gorau.  

 

Mae cyfarwyddiadau llawn i bob un o'r adrannau Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol i Gleifion Allanol, a threfniadau parcio i bob un, ar gael yn adran Sut i Ddod o Hyd i Ni y wefan hon.

Os oes gofyn Ambiwlans arnoch, trafodwch hyn pan fyddwch yn gwneud eich apwyntiad Ffisiotherapi. Mae meini prawf wedi'u gosod ar gyfer defnyddio Ambiwlans am apwyntiadau ysbyty, a gellir trafod hyn gyda'n derbynnydd. Os yw'n briodol, bydd eich derbynnydd yn gallu trefnu hyn i chi tra byddwch ar y ffôn.

Bydd angen i'ch Ffisiotherapydd allu gweld y rhan o'r corff sy'n peri problem ichi. Cofiwch wisgo dillad sy'n addas. Os oes gennych broblem coes, bydd yn ddefnyddiol ichi ddod â phâr o drowsus byr gyda chi, neu wisgo dillad llac. Os oes gennych broblem gwddf neu ysgwydd, efallai bydd menywod am wisgo top siâp fest.

Sicrhewch eich bod yn cwblhau eich holiadur claf, gan gynnwys rhestr o unrhyw feddyginiaeth rydych yn ei chymryd, a dod â hwn gyda chi i'ch apwyntiad cyntaf. Os ydych yn defnyddio sbectolau darllen, dewch â'r rheini gyda chi.
 

Pan gyrhaeddwch yn yr Adran Ffisiotherapi, cyflwynwch eich hun i'r derbynnydd / aelod o staff. 

Bydd eich Ffisiotherapydd yn cyflwyno ei hun ichi cyn gofyn cyfres o gwestiynau i chi. Mae'r cwestiynau hyn yn hanfodol er mwyn i'ch Ffisiotherapydd ddeall yn llawn unrhyw broblemau sydd gennych.

Ar ôl hyn, bydd yn cynnal archwiliad corfforol. Bydd canfyddiadau'r archwiliad hwn yn cael eu trafod gyda chi a byddwch, gyda'ch gilydd, yn gosod cynllun triniaeth a nodau triniaeth.

  • Mae apwyntiadau cyntaf fel arfer yn para hyd at 30 – 45 munud.
  • Mae apwyntiadau dilynol fel arfer yn para hyd at 30 munud.
  • Gall sesiynau grŵp bara hyd at awr gan ddibynnu ar y dosbarth.

Gan ddibynnu ar eich problem, byddwch yn cael eich gweld naill ai ar eich pen eich hun neu yn rhan o grŵp. Fel arfer, cynhelir sesiynau un ac un mewn ciwbicl y tu ôl i len.

Yn rhan o'ch triniaeth, efallai byddwch yn symud ymlaen i'r gampfa, a hynny naill ai ar eich pen eich hun neu yn rhan o grŵp. Cynhelir sesiynau grŵp mewn campfa fel arfer. 

Bydd nifer y sesiynau triniaeth sy'n ofynnol yn dibynnu ar eich anhwylder a gyflwynwyd. Ar gyfer rhai anhwylderau, dim ond un sesiwn asesu fydd yn ofynnol, ac wedi hynny byddwch yn cael ychydig o gyngor ar reoli eich anhwylder ac yn cael eich rhyddhau. 

Gydag anhwylderau eraill, bydd gofyn cynnal asesiad ac yna sesiynau triniaeth dilynol. Trafodir yn eich apwyntiad cyntaf sawl sesiwn y mae'n debygol y bydd ei hangen arnoch. 

Mae'n hanfodol ichi gysylltu â'r adran cyn gynted ag y byddwch yn gwybod nad ydych yn gallu dod i'ch apwyntiad. Mae rhifau cyswllt ar gyfer pob adran ar gael ar ein tudalen Sut i Ddod o Hyd i Ni. Drwy roi cymaint o rybudd â phosibl inni nad ydych yn gallu dod i'ch apwyntiad, gallwn gynnig yr apwyntiad hwn i glaf arall, a fydd yn ein helpu i gadw'r rhestr aros ar gyfer Ffisiotherapi mor fyr â phosibl.

Mae'n hanfodol ichi beidio â cholli apwyntiad heb roi gwybod ymlaen llaw i'r Adran. Mae colli apwyntiad yn arwain at amseroedd aros hirach i gleifion eraill, a gall arwain at eich rhyddhau o'r gwasanaeth Ffisiotherapi.  Mae rhagor o wybodaeth am ein Protocol Presenoldeb i Gleifion Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol ar gael yn ein hadran Adnoddau Defnyddiol.

Mae nifer o ffactorau sy'n gallu eich helpu i sicrhau y cewch y canlyniad gorau posibl o'ch Ffisiotherapi. Mae'r rhain yn cynnwys dilyn cyngor eich Ffisiotherapydd, bod yn gyson gyda'ch rhaglen ymarfer gartref a mynd i'ch holl apwyntiadau. Hefyd, mae mynd i'r afael ag agweddau ar eich iechyd cyffredinol yn bwysig i'ch helpu i sicrhau bod eich corff yn gweithio cystal ag y gall.

Ceisiwch gyrraedd eich pwysau delfrydol, cymerwch ran mewn ymarfer corff priodol rheolaidd, gan hefyd osgoi straen gormodol a rhoi'r gorau i smygu.

Mae cyngor ar fynd i'r afael â'r ffactorau hyn ar gael gan eich Ffisiotherapydd ac o'n hadran Adnoddau Defnyddiol.

Nid yw ffisiotherapyddion yn cynnal ymchwiliadau. Caiff y rhain eu gwneud fel arfer gan yr adran Radioleg.

Mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cefnogi hyfforddiant myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ac mae'n bosibl y bydd myfyrwyr yn bresennol yn eich ymgynghoriad. 

Mae'r holl waith sy'n cael ei gwblhau gan fyfyrwyr yn yr adran yn cael ei oruchwylio gan aelod cymwysedig o staff. Os nad ydych yn dymuno cael eich gweld gan fyfyriwr neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, rhowch wybod i staff y clinig.

 

Rydym yn ceisio sicrhau eich bod yn aros cyn lleied o amser â phosibl am Ffisiotherapi. Bydd yr amser aros yn dibynnu ar yr anhwylder a gyflwynwch, a fydd wedi cael ei ddisgrifio ar eich ffurflen atgyfeirio gan eich meddyg teulu. 

Os cysylltwch â'ch Adran Ffisiotherapi leol, bydd yn gallu rhoi syniad ichi o'r amser y byddwch yn debygol o orfod aros am eich apwyntiad Ffisiotherapi. 

Gallwch. Os bydd angen y nodiadau ar eich cyfreithiwr ar gyfer cyfreitha cyfredol, bydd fel arfer yn cysylltu'n uniongyrchol â ni i ofyn amdanynt. Byddwn yn rhyddhau copi o'r nodiadau i'r cyfreithiwr ar ôl inni gael ffurflen ganiatâd wedi'i llofnodi gennych chi, a phan fydd ffi weinyddu wedi cael ei thalu. Os oes angen y nodiadau arnoch chi'ch hunan, trafodwch hyn gydag aelod o staff.

 

Dilynwch ni