Bydd eich Ffisiotherapydd yn cynnal asesiad cynhwysfawr a fydd yn cynnwys eich holi am eich anhwylder, ac yna archwiliad corfforol.
Gall ffisiotherapi fod yn ddefnyddiol i reoli anhwylderau sy'n ymwneud â'r cymalau, y nerfau a meinwe feddal.
Mae cyfarwyddiadau llawn i bob un o'r adrannau Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol i Gleifion Allanol, a threfniadau parcio i bob un, ar gael yn adran Sut i Ddod o Hyd i Ni y wefan hon.
Bydd angen i'ch Ffisiotherapydd allu gweld y rhan o'r corff sy'n peri problem ichi.
Pan gyrhaeddwch yn yr Adran Ffisiotherapi, cyflwynwch eich hun i'r derbynnydd / aelod o staff.
Gan ddibynnu ar eich problem, byddwch yn cael eich gweld naill ai ar eich pen eich hun neu yn rhan o grŵp.
Bydd nifer y sesiynau triniaeth sy'n ofynnol yn dibynnu ar eich anhwylder a gyflwynwyd.
Mae'n hanfodol ichi gysylltu â'r adran cyn gynted ag y byddwch yn gwybod nad ydych yn gallu dod i'ch apwyntiad.
Mae'n hanfodol ichi beidio â cholli apwyntiad heb roi gwybod ymlaen llaw i'r Adran.
Mae nifer o ffactorau sy'n gallu eich helpu i sicrhau y cewch y canlyniad gorau posibl o'ch Ffisiotherapi.
Nid yw ffisiotherapyddion yn cynnal ymchwiliadau. Caiff y rhain eu gwneud fel arfer gan yr adran Radioleg.
Mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cefnogi hyfforddiant myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ac mae'n bosibl y bydd myfyrwyr yn bresennol yn eich ymgynghoriad.
Rydym yn ceisio sicrhau eich bod yn aros cyn lleied o amser â phosibl am Ffisiotherapi.
Gallwch. Os bydd angen y nodiadau ar eich cyfreithiwr ar gyfer cyfreitha cyfredol, bydd fel arfer yn cysylltu'n uniongyrchol â ni i ofyn amdanynt.