Gall ffisiotherapi fod yn ddefnyddiol i reoli anhwylderau sy'n ymwneud â'r cymalau, y nerfau a meinwe feddal. Mae hyn yn cynnwys problemau cefn a gwddf, anafiadau cymalau fel ysgwyddau, cluniau neu bengliniau, anafiadau meinwe feddal gan gynnwys ysigo gewynnau ac anafu/rhwygo cyhyrau, anhwylderau arthritig neu ôl-lawdriniaeth neu yn dilyn toresgyrn. Mae ffisiotherapi'n defnyddio triniaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn dilyn arfer gorau.