Mae nifer o ffactorau sy'n gallu eich helpu i sicrhau y cewch y canlyniad gorau posibl o'ch Ffisiotherapi. Mae'r rhain yn cynnwys dilyn cyngor eich Ffisiotherapydd, bod yn gyson gyda'ch rhaglen ymarfer gartref a mynd i'ch holl apwyntiadau. Hefyd, mae mynd i'r afael ag agweddau ar eich iechyd cyffredinol yn bwysig i'ch helpu i sicrhau bod eich corff yn gweithio cystal ag y gall.
Ceisiwch gyrraedd eich pwysau delfrydol, cymerwch ran mewn ymarfer corff priodol rheolaidd, gan hefyd osgoi straen gormodol a rhoi'r gorau i smygu.
Mae cyngor ar fynd i'r afael â'r ffactorau hyn ar gael gan eich Ffisiotherapydd ac o'n hadran Adnoddau Defnyddiol.