Neidio i'r prif gynnwy

Cyn eich apwyntiad

19/02/20
Beth os na allaf fynychu'r apwyntiad?

Os na allwch ddod i'ch apwyntiad am unrhyw reswm, rhowch wybod i Ffiseg Feddygol ar unwaith. Bydd hyn yn ein galluogi i aildrefnu eich apwyntiad i amser mwy addas.

19/02/20
Beth os ydw i'n feichiog neu'n meddwl fy mod i'n feichiog?

Os ydych chi'n feichiog neu efallai eich bod chi'n feichiog, rhaid i chi gysylltu â'r adran ar y rhif derbynfa uchod cyn eich ymweliad i gael cyngor.

19/02/20
Dwi angen cludiant ysbyty ar gyfer fy apwyntiad, sut ydw i'n ei archebu?

Os ydych chi'n gymwys i gael cludiant i'r ysbyty, rhaid trefnu hyn gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar 0300 1000 012. Rhaid archebu o leiaf 48 awr cyn eich apwyntiad.

Dilynwch ni