Neidio i'r prif gynnwy

Eich Apwyntiad

19/02/20
Beth yw Mesur Dwysedd Esgyrn (DXA)?

Mae Mesur Dwysedd Esgyrn (DXA) yn ymchwiliad sy’n defnyddio pelydrau-X ynni isel i bennu faint o ‘fwyn esgyrn’ sydd yn yr ardal sy’n cael ei mesur.

19/02/20
Sut ydw i'n paratoi ar gyfer yr ymchwiliad?

Gwisgwch ddillad sy'n ysgafn a llac, heb unrhyw rannau metel (botymau, sipiau, clipiau, byclau ac ati) e.e. siwmper neu grys-t, sgert neu drowsus gyda band gwasg elastig (Menywod - ceisiwch osgoi bra gyda weiren dan eich bronnau).

19/02/20
Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud ar gyfer yr ymchwiliad?

Mae'r ymchwiliad yn cynnwys gorwedd ar eich cefn ar wely. Bydd braich sganio yn symud i fyny ac i lawr uwchben eich corff ond ni fydd yn eich cyffwrdd nac yn eich amgáu ar unrhyw bwynt (gweler y ffotograff uchod).

19/02/20
Pa mor hir mae'n ei gymryd?

Mae pob mesuriad yn cymryd ychydig funudau. Mae cyfanswm hyd yr ymchwiliad yn dibynnu ar yr hyn y gofynnwyd inni ei fesur.

Dilynwch ni