Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Diabetes Pediatreg

Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau i'n cleifion ac i adrannau eraill a gweithwyr iechyd proffesiynol.

 I Gleifion

  • Cefnogaeth ac addysg, wedi'u teilwra i anghenion unigol adeg diagnosis, yn ogystal ag addysg barhaus wrth i'r claf dyfu'n hŷn.
  • Clinigau cleifion allanol pwrpasol ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau (gweler amserlen y clinig).
  • Apwyntiadau dan arweiniad nyrsys ar gyfer cleifion sydd angen mewnbwn ychwanegol rhwng apwyntiadau cleifion allanol arferol.
  • Mynediad at gymorth dietetig yn ystod clinig yn ogystal ag ar gyfer cleifion sydd angen mewnbwn ychwanegol rhwng apwyntiadau cleifion allanol arferol.
  • Mynediad at gymorth seicoleg yn ystod clinig yn ogystal ag ar gyfer cleifion sydd angen mewnbwn ychwanegol rhwng apwyntiadau cleifion allanol arferol.
  • Cefnogaeth ac addysg Nyrs Diabetes Pediatreg i staff ysgol, i'w darparu adeg y diagnosis, os bydd triniaeth yn newid, ar gyfer teithiau ysgol yn ogystal ag os bydd unrhyw broblemau'n codi neu pan fydd athrawon newydd yn dod yn rhan o reoli diabetes.
  • Cefnogaeth Nyrs Diabetes Pediatreg yng nghartrefi cleifion pan fo hynny'n berthnasol.
  • Cefnogaeth ac addysg i aelodau estynedig o'r teulu, gwarchodwyr plant, ffrindiau ac ati.
  • Gwybodaeth arbenigol ar gyfer rheoli cleifion ar therapi pwmp inswlin, gan gynnwys monitro glwcos yn barhaus.
  • Gwasanaeth cyngor ffôn y tu allan i oriau i gleifion a staff.

I Adrannau eraill

  • Mynediad i'r holl wasanaethau uchod.
  • Cyngor cymorth a rheolaeth ar gyfer cleifion mewnol â diabetes.
  • Darparu addysg barhaus i'r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr.
  • Cyngor i weithwyr gofal iechyd proffesiynol o fyrddau Iechyd/ ymddiriedolaethau ysbytai eraill ledled y DU.
Dilynwch ni