Diabetes

Mae'r gwasanaethau diabetes wedi'u lleoli ar ein dau brif safle yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau. (Sylwer bod cyngor diabetes arbenigol yn cael ei roi i bob un o ysbytai Bwrdd Iechyd y Brifysgol ar gais.)

Ein nod yw cynnig gwasanaethau diabetes cynhwysfawr i gleifion, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan roi'r cyfle i ddysgu mwy am ddiabetes, cael cymorth arbenigol pan fydd angen, a meithrin perthynas dda â staff meddygol.

Helpwch i lunio gofal diabetes yng Nghaerdydd a'r Fro

Rydym am wella gofal, gwasanaethau a chanlyniadau i bobl â diabetes ledled Caerdydd a'r Fro. Cwblhewch yr arolwg byr hwn a helpwch i lunio gwell iechyd a gwasanaethau iechyd yn eich cymuned.

Dolen i'r arolwg yma.