Neidio i'r prif gynnwy

Cofnodion Iechyd - I helpu'r GIG

Defnyddir eich gwybodaeth hefyd i helpu i reoli'r GIG wrth ddarparu gofal iechyd. Mae'n bosib y caiff ei defnyddio er mwyn: 

  • Adolygu'r gofal a roir i gleifion i sicrhau ei fod o'r safon uchaf posibl.
  • Sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynllunio i fodloni anghenion cleifion yn y dyfodol.
  • Ymchwilio i gwynion, hawliadau cyfreithiol neu ddigwyddiadau pwysig.
  • Sicrhau bod arian yn cael ei ddyrannu'n briodol i'r Bwrdd Iechyd i dalu am y gwasanaethau a ddarpara.
  • Cael gwybod pa mor effeithiol fu'r GIG, ac adrodd am hyn.
  • Sicrhau bod y GIG a'i wasanaethau'n rhoi gwerth am arian.
Dilynwch ni