Neidio i'r prif gynnwy

Cofnodion Iechyd - I helpu eraill

Gellir defnyddio eich gwybodaeth i helpu i ddiogelu a gwella iechyd pobl eraill, ac i helpu i greu gwasanaethau newydd yn y dyfodol.

O dan y gyfraith, efallai bydd rhaid i'ch meddyg roi gwybodaeth i rai sefydliadau.

  • O dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 a Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Clefydau Heintus) 1988, rhaid i feddygon drosglwyddo gwybodaeth sydd ei hangen i atal brigiad o achosion rhai clefydau. Os oes gennych glefyd heintus a allai beryglu diogelwch eraill (e.e. llid yr ymennydd neu'r frech goch ond nid HIV/AIDS) bydd eich meddygon yn dweud wrth y sefydliadau perthnasol.
  • Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Adran 60) yn caniatáu i rai sefydliadau ofyn am wybodaeth hanfodol gan eich meddyg teulu neu ysbyty er mwyn gwneud eu gwaith. Rheolir hyn yn gaeth ac ni chaiff ei ganiatáu heblaw bod cais wedi'i wneud i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a'i gymeradwyo ganddo.

Mae angen gwybodaeth ar rai gwasanaethau i gefnogi ymchwil meddygol a dilyn tueddiadau mewn clefydau. Mae hyn yn sicrhau: 

  • Bod sefydliadau gofal iechyd yn gallu cynllunio ymlaen llaw a darparu'r gwasanaethau cywir i'r bobl gywir 
  • Bod modd gwneud cynnydd o ran gwneud diagnosis o glefydau a'u rheoli 
  • Bod modd gwneud cyffuriau'n fwy effeithiol er enghraifft drwy leihau sgil-effeithiau

Fel Bwrdd Iechyd addysgu, mae angen rhannu gwybodaeth gyda'r staff hynny sydd dan hyfforddiant. Mae gan yr holl staff sydd dan hyfforddiant yr un ddyletswydd cyfrinachedd â holl aelodau eraill Staff y Bwrdd Iechyd. 

Dilynwch ni