Gwnewch yn siŵr fod eich sawdl wedi'i leoli yn union yng nghefn yr esgid.
Dechreuwch drwy dynhau'r strap ar draws y pigwrn ac ar draws rhan uchaf yr esgid.
Gallwch ddefnyddio'r padiau sbwng ychwanegol i warchod unrhyw ardaloedd lle y ceir pwysedd. Awgrymwn ddefnyddio un o dan strap y pigwrn gan nad oes unrhyw ddeunydd padio yno.
Caewch y strapiau sy'n weddill nes bod eich troed yn teimlo'n glyd ond nid yn dynn.
Os byddwch yn cau'r esgid yn rhy dynn, fe allech achosi pwysedd ar eich croen.