Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli anaf acíwt

Rhywun yn rhoi ffisiotherapi i gyhyrau coes unigolyn

Chwyddo a Phoen

Mae poen a chwyddo'n rhan o ymateb naturiol y corff i anaf. Dilynwch y camau syml isod i reoli eich symptomau.

  • Iâ: Mae iâ yn anesthetig naturiol gwych sy'n helpu i leihau poen a rheoli chwyddo. Rhowch baciau iâ neu fag o bys wedi'u rhewi mewn tywel tenau ar safle'r anaf. Fe allai fod yn fuddiol rhoi iâ cyn ac ar ôl cwblhau eich ymarferion. Peidiwch â rhoi iâ yn syth ar y croen. Peidiwch â gadael y pac iâ yn ei le am fwy nag 20 munud ar y tro o fewn awr. Ailadroddwch gynifer o weithiau ag sydd angen.
  • Codi: Mae chwyddo'n naturiol ar ôl anaf. Mae codi'r rhan o'r corff yn lleihau chwyddo ac mae hyn, yn ei dro, yn lleddfu poen a chyflymu'r broses wella. Cadwch y rhan o'ch corff sydd wedi'i hanafu i fyny gymaint â phosibl yn ystod y 72 awr gyntaf.
  • Meddyginiaeth: Efallai y bydd yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys wedi rhoi meddyginiaeth lladd poen i chi ar bresgripsiwn. Cymerwch y feddyginiaeth hon yn unol â'r cyfarwyddiadau i helpu i reoli'r boen. Os nad ydych yn credu bod y feddyginiaeth yn helpu, ystyriwch siarad â fferyllydd neu'ch meddyg teulu i weld a oes opsiwn arall ar gael.

Gyrru

  • Os ydych wedi anafu un o'ch coesau, gallwch ddychwelyd i yrru pan nad oes arnoch angen yr esgid orthopedig neu faglau mwyach ac rydych yn hyderus y gallwch wneud stop brys.
  • Os ydych wedi anafu un o'ch breichiau, gallwch ddechrau gyrru pan nad ydych yn defnyddio'ch sling mwyach a phan fydd gennych ddigon o nerth heb boen yn eich breichiau.
  • Os oes gennych apwyntiad dilynol gyda ni, arhoswch nes bod eich ymgynghorydd neu'ch ffisiotherapydd wedi dweud y gallwch yrru. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, peidiwch â gyrru nes byddwch wedi siarad ag aelod o'n tîm.

Gwaith a Chwaraeon

Mae penderfyniadau ynglŷn â dychwelyd i'r gwaith yn cael eu gwneud ar sail unigol a dylid eu trafod  gyda'r Clinig Toresgyrn Rhithwir, eich meddyg teulu a'ch cyflogwr. Efallai y bydd angen i chi gael cyfnod i ffwrdd o'r gwaith, a phan fyddwch yn dychwelyd efallai y bydd angen i chi wneud dyletswyddau ysgafn neu ddiwygiedig. Bydd y cyngor a roddir yn dibynnu ar eich galwedigaeth a'ch anaf.

Bydd cyngor ar ailgydio mewn chwaraeon yn cael ei roi yn ystod eich ymgynghoriad ffôn.

Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT)

Pan fyddwch yn llai symudol, rydych mewn perygl uwch o ddatblygu tolchen waed, a elwir yn thrombosis gwythiennau dwfn (DVT). Mae angen i rai cleifion gael meddyginiaeth i leihau'r perygl hwn. Bydd y clinigydd a'ch atgyfeiriodd i'r Clinig Toresgyrn Rhithwir wedi ystyried hyn a rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn os bydd angen.

Os byddwch yn datblygu arwyddion DVT, bydd angen i chi geisio sylw meddygol ar frys. Dyma'r arwyddion:

  • Chwyddo a thynerwch yng nghroth y goes (calf) a rhan isaf y goes, yn hytrach na'ch pen-glin
  • Newid i liw bysedd eich traed o gymharu â'ch coes arall (porffor fel arfer)
  • Poen yng nghroth y goes, cesail y forddwyd (groin) neu'r frest.
  • Cochni a gwres yn yr ardal yr effeithir arni

Ysmygu pan fydd gennych anaf

Mae tystiolaeth feddygol yn awgrymu bod toriadau'n cymryd mwy o amser i wella os ydych yn ysmygu. Mewn achosion eithafol, fe all atal y broses wella'n gyfan gwbl. Mae'n bwysig eich bod yn ystyried y wybodaeth hon o ran eich anaf diweddar. Bydd rhoi'r gorau i ysmygu tra bod toriad yn gwella yn helpu i sicrhau eich bod yn gwella o'r anaf hwn cystal â phosibl.

I gael cyngor ar roi'r gorau i ysmygu a'r cymorth lleol sydd ar gael, siaradwch â'ch meddyg teulu neu ewch i wefan Helpa Fi i Stopio y GIG.